google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Allai lluniau digidol newydd helpu i ddatrys dirgelwch corff cronfa Claerwen?

Advertisements

“Yn ei hanfod, ry’n ni’n ceisio gwneud cymaint â phosibl i geisio’i adnabod a’i ddychwelyd i unrhyw aelodau o’i deulu efallai sy’n ei golli,” meddai.

“Ry’n ni’n credu mai dyma’n cyfle gorau i adnabod y dyn.”

Apeliodd yr heddlu am gymorth gan y cyhoedd yn ôl ym mis Hydref 2024.

Yn gynharach yn y mis, roedd cerddwr wedi gweld corff y dyn yn arnofio ychydig fetrau o’r lan yng nghronfa ddŵr Claerwen.

Hon yw’r gronfa fwyaf o ran maint, a mwyaf gwledig Cwm Elan ym Mhowys.

Oherwydd dyfnder y gronfa, mae’r dŵr oer yn gallu achosi sioc i’r corff ac mae arwyddion ar y lan yn rhybuddio pobl i beidio â nofio neu fynd i mewn i’r dŵr.

Yn dilyn y darganfyddiad, aeth timau chwilio’r heddlu ar droed ac ar y dŵr, i chwilio am unrhyw eiddo gafodd ei adael ar y lan.

Cafodd hofrennydd yr heddlu hefyd ei ddefnyddio, fu’n hedfan yn isel dros y bryniau ac ar draciau cyfagos – yn chwilio am gerbydau neu bebyll.


BBC News

Views: 3

See also  Stroke victims in Bronglais Hospital in Aberystwyth plea

Check Also

Newid polisi cludiant ysgol yn ‘rhwygo Llansannan yn ei hanner’

Er bod disgyblion uwchradd Llansannan hefyd wedi mynd i Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn yn …

Louis Rees-Zammit: Wales wing says more to come for next season

Louis Rees-Zammit says he has not settled back into rugby as quickly as he would …

Hosepipe ban for parts of Wales likely after record demand, warns Welsh Water

A hosepipe ban is likely to be introduced to around 33,000 properties in parts of …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Technologies » tech news today.