google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ynys-y-bwl: ‘Anodd ond rhaid i ni symud o ‘ma’

Mae Paul Thomas, sy’n 66 ac sydd wedi byw ar Clydach Terrace am 40 o flynyddoedd yn credu ei fod yn lwcus i fod yn fyw.

Cafodd ei ddal mewn llifogydd yn ystod Storm Dennis yn 2020.

“Daeth ton i fyny’r stryd a ‘nharo i oddi ar y step, ges i fy nghario ar draws y ffordd at y wal ond llwyddais i gicio oddi ar y wal a dod yn ôl,” meddai.

Pe bai wedi cael ei lusgo i lawr yr afon ac i mewn i’r twnnel byddai ddim wedi gallu goroesi hynny esboniodd.

Mae symud am fod yn ddiwrnod chwerw-felys i Paul.

Mae ei ferch yn byw drws nesaf a’i ŵyr a’i ferch-yng-nghyfraith yn byw ar yr ochr arall.

Dywedodd bod ei ŵyr yn drist iawn ond er ei bod yn sefyllfa “anodd ni wedi derbyn y ffaith bod yn rhaid i ni symud o ‘ma”.

Dydy Paul ddim yn gwybod ble fydd ei gartref newydd ond dydy e ddim yn credu y bydd cyfle iddo fyw yn agos iawn i’r stryd yma.


BBC News

Advertisements

See also  Ffonau clyfar mewn ysgolion: 'Llywodraeth yn osgoi cyfrifoldeb'

Check Also

Rugby League World Cup: Amberley Ruck to miss brother’s wedding to represent Wales

Even though Buck, 32, like all her team-mates are playing at a Rugby League World …

Anna Morris: World champion’s medical career still ‘on pause’ for Olympics

After years of dominance, it has felt like the rest of the world has caught …

Tributes paid to Caerphilly man who died during Cardiff Half Marathon

The family said Ross had trained for the half marathon with “commitment, enthusiasm and careful …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime