google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y syniad o golli car yn sgil y gyllideb yn ‘frawychus’ i bobl anabl

Mae ymgyrchwyr fel Kat Watkins o Anabledd Cymru yn gwrthwynebu sylwadau o’r fath.

“I gael Motability mae angen cael PIP ac mae cael PIP yn gymhleth iawn,” meddai.

“Rhaid mynd trwy asesiadau, pethau fel hynny, ac yna dim ond os ydych chi’n cael y gyfradd uchaf y byddwch yn gymwys i gael car, sy’n golygu bod angen y car hwnnw arnoch chi.

“Mae’r cyfryngau yn honni y gall pobl gyda ADHD [a chyflyrau niwrolegol eraill neu salwch meddwl] ei gael yn hawdd, ond mae’r person hwnnw sydd ag ADHD wrth gwrs angen hynny am reswm, nid jyst oherwydd ei fod eisiau car newydd bob tair blynedd.”

Mae’n dweud bod y sibrydion am newid yn peri pryder.

“Bydd cymaint o bobl anabl yn fwy unig os fyddan nhw bellach ddim yn gymwys.

“Gallwch chi’m ynysu cymdeithas yn y modd yma. Mae pobl anabl eisoes yn teimlo fel dinasyddion eilradd. Byddwch chi’n trin mwy o bobl anabl fel dinasyddion eilradd a thrydydd dosbarth.

“Dyw hynny’m yn iawn.

“Mae’r llywodraeth yn pwysleisio cael mwy o bobl anabl i mewn i waith.

“Ond sut mae gwneud hynny pan nad oes ganddyn nhw ffordd gorfforol o gyrraedd y gwaith?”

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Waith a Phensiynau sydd yn gyfrifol am PIP nad oeddent am wneud sylw cyn y gyllideb ond bod “Motability yn gynllun annibynnol, yn cael ei dalu o daliadau budd-dal presennol pobl.

“Fel llywodraeth sydd wedi ymrwymo i reoli cyllid cyhoeddus yn gyfrifol, rydym yn edrych ar ffyrdd o wneud y cynllun yn decach,” medd llefarydd.


BBC News

Advertisements

See also  Dydd Gŵyl Dewi: Cenhinen neu genhinen Bedr?

Check Also

Phil Parkinson: Wrexham had to block outside noise

First goals for the club from Joe Worrall and Ben Whiteman helped Wrexham establish a …

Swansea City 0-1 West Ham: Vitor Matos tells Swans to use defeat as fuel

“I think that’s the most important thing today, that we played against a really good …

Police renew appeal over man in wetsuit found in reservoir

Police have renewed an appeal over a man whose body was found in a reservoir …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime