google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyhoeddi llyfr newydd am hiwmor C’mon Midffîld

Advertisements

Un peth mae Gethin yn falch ohono yw eu bod wedi gallu holi ambell i westai arbennig.

“Roedd o’n grêt cael John Pierce Jones (sy’n actio cymeriad Arthur Picton) wrth gwrs, ond rydan ni’n ddiolchgar i bob un ac mae pawb yn wahanol.

“Fe gawson ni Mr Craig ar un ohonyn nhw, Ian Gwyn Hughes a llawer iawn mwy.

“Yr unig un o’n i’n gutted chafon ni ddim oedd Mark Hughes, ond roedd o newydd golli ei job yn Bradfod City ychydig ddyddiau ynghynt felly mae hynny’n ddealladwy pan nad oedd o ar gael i ddod i drafod C’mon Midffîld,” meddai Gethin.

O ran y dyfodol, does gan y tri ddim bwriad o stopio.

“Mae sawl un yn gofyn pryd mae’r gyfres nesaf am ddechrau. Y peth ydi, daeth y cais ‘ma i ‘neud y llyfr, felly mae ein amser ni wedi mynd yn canolbwyntio ar orffen hwnna.

“Gobeithio bydd ‘na amser ar ddechrau’r flwyddyn ar gyfer cyfres pedwar, ond yn y cyfamser gobeithio fydd pawb yn mwynhau’r llyfr fel rhyw ddarn i aros pryd.”

Bydd Hiwmor C’mon Midffîld yn cael ei lansio’n swyddogol ar nos Wener, 5 Rhagfyr yng Nghlwb Hwylio Caernarfon.


BBC News

Views: 1

See also  Ryan Roberts tribute to 'family man' who died working in property

Check Also

Welsh Rugby Union finances ‘pretty good’ despite plan to cut regional side

“Rugby has challenges… but within Wales we’ve got so much passion for rugby and there’s …

Aidan Heslop wins Red Bull Cliff Diving World Series opener after back surgery return

Aidan Heslop made a triumphant return to the Red Bull Cliff Diving World Series by …

Cyhoeddi enillwyr prif wobrau’r dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd

Mae Medal Bobi Jones yn cael ei rhoi i unigolyn 19-25 oed, sy’n dangos sut …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime