google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Sioc bod Mam am roi ei chorff i wyddoniaeth, ond nawr dwi eisiau hefyd – Lucy Owen

Advertisements

Yn y cyfrif diwethaf yn 2019, fe ddefnyddiodd 34 o brifysgolion yn y DU gyrff go iawn gan roddwyr.

Mae myfyrwyr yn eu defnyddio i ddysgu am anatomeg y corff dynol, trwy brofiad ymarferol, ac mae llawfeddygon yn eu defnyddio i ymarfer eu sgiliau.

Pan glywodd Lucy bod ei mam eisoes wedi cysylltu â Phrifysgol Caerdydd a bod popeth wedi’i drefnu, dywedodd ei bod yn teimlo “edmygedd a dryswch”.

Ond fe arweiniodd at gwestiynau.

“Sut fyddai ei chorff yn cael ei ddefnyddio? A fydden ni’n gallu cael angladd? A yw hyn yn rhywbeth y byddwn i byth yn ei ystyried fy hun?”

Dywedodd bod Patsy yn esbonio’r sefyllfa’n blwmp ac yn blaen wrthi, gan ddweud: “Dwi’n dychmygu llif fawr yn dod allan i dorri coes i ffwrdd, ond mewn gwirioendd ‘sdim ots gen i.”

Yn 2021 fe gafodd Patsy lawdriniaeth ar gyfer canser y coluddyn ac erbyn hyn mae ganddi stoma.

Esboniodd Lucy mai diolchgarwch ei mam tuag at y Gwasanaeth Iechyd yw’r rheswm ei bod am helpu i hyfforddi meddygon y dyfodol fel ei “rhodd olaf”.


BBC News

Views: 0

See also  Y grŵp cymunedol sy'n gwneud gwahaniaeth ym Maesgeirchen, Bangor

Check Also

Canu ar Fryn Briallu i gofio cyfraniad Iolo Morganwg

Fodd bynnag, er ei bersonoliaeth mawr, dadleuol, mae Rhian yn teimlo fod ei gyfraniad i …

A stranger saved my life after my truck flipped on the way to work

Richard Jones from Neath says a passerby tied two tourniquets that stopped him from bleeding …

Rugby league's record loss but Crusaders win survival

North Wales Crusaders lost 134-0 at home to London Broncos – but heavy defeats have …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Link. You have been rate limited for making too many requests in a short time frame. Artificial intelligence hedge fund.