google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ateb y Galw: Alis Glyn

AlisFfynhonnell y llun, Alis Glyn
Disgrifiad o’r llun,

Y cerddor Alis Glyn o Gaernarfon wnaeth ennill Tlws Sbardun yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025 am gyfansoddi ei chân Lleuad Llinyn Arian.

Sefydlwyd Tlws Sbardun yn 2016 er mwyn cydnabod cyfraniad y cerddor a’r cyfansoddwr Alun Sbardun Huws, a chaiff ei gwobrwyo’n flynyddol er mwyn annog cyfansoddwyr y dyfodol.

Alis yw’r ferch gyntaf i ennill Tlws Sbardun a hefyd yr enillydd ieuengaf, a hi sy’n Ateb y Galw yr wythnos yma.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Dwi’n cofio bod ar wylia’ yn Nice yn Ne Ffrainc pan o’n i tua tair oed. Mewn siop deganau nes i afael yng nghoes dyn gan feddwl mai coes Dad oedd hi a ‘nath y dyn ddychryn.

Gwenno Huws, gweddw y diweddar Alun 'Sbardun' Huws yn cyflwyno Tlws Sbardun i Alis Ffynhonnell y llun, Alis Glyn
Disgrifiad o’r llun,

Gwenno Huws, gweddw y diweddar Alun ‘Sbardun’ Huws yn cyflwyno Tlws Sbardun i Alis ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Gwersyll y Vanner yn Llanelltyd, ger Dolgellau oherwydd bod hi’n ddistaw wrth olion yr abaty.

Beth yw’r noson orau i chi ei chael erioed?

Aros ar fy nhraed tan bump o’r gloch y bore efo fy ffrindiau ysgol yn Albufeira ar ôl gorffen Lefel A.

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Penderfynol, brwdfrydig a chreadigol.

Seremoni Tlws Sbardun yn y Tŷ GwerinFfynhonnell y llun, Alis Glyn
Disgrifiad o’r llun,

Seremoni Tlws Sbardun yn y Tŷ Gwerin

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl ‘nôl?

Pan oeddwn tua tair oed roeddwn yn mynnu mynd i bob sioe Cyw yn ystod wythnos y Steddfod gan dynnu aelod gwahanol o’r teulu efo fi. Roeddwn i’n gwbod pob un cân a’r sgript erbyn diwedd yr wythnos, a’r uchafbwynt oedd cael mynd ar y llwyfan a chael ‘slepjan’.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Yn y Steddfod sir pan o’n i tua naw oed nes i anghofio ‘ngeiriau’n llwyr yn y gystadleuaeth gerdd dant ac ail ganu pennill yn gyfan gwbl.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Chwarae yn Tafwyl yn y Tafiliwn efo'r bandFfynhonnell y llun, Alis Glyn
Disgrifiad o’r llun,

Chwarae yn Tafwyl yn y Tafiliwn efo’r band

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Albwm y band Ynys, Dosbarth Nos.

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Joni Mitchell, oherwydd ‘mod i wrth fy modd efo steil ei chaneuon hi a’i gallu hi i chwarae’r gitâr.

Alis a'i band yn chwarae yng Nghaffi Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025Ffynhonnell y llun, Alis Glyn
Disgrifiad o’r llun,

Alis a’i band yn chwarae yng Nghaffi Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi’n cael fy mhen-blwydd ‘run diwrnod â Meic Stevens.

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Chwarae piano a chyfansoddi cân.

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Pob Nadolig mae Anna a Gwil drws nesa’ a Steff a Dei dros ffordd a fi yn cael tynnu llun pile up ar y soffa. Dyma oedd yr un cynta’ ac mae pob llun ers hynny’n gwneud i mi wenu.

plantFfynhonnell y llun, Alis Glyn

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Fi yn saith oed yn cael allweddella’ fel anrheg gan Siôn Corn; roeddwn wedi gwirioni yn lân.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.


BBC News

See also  Olympic champion Page among medals at worlds

Check Also

Seren rygbi’r gynghrair, Syr Billy Boston, wedi marw yn 92 oed

Roedd Syr Billy Boston hefyd yn rhan o dîm Prydain a enillodd Cwpan y Byd …

Croeso mawr gan gleifion i Millie y Shih Tzu gofalgar

Ac mae Jane yn hynod o falch i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y …

Asesu’r 100 niwrnod cyntaf o lywodraeth Plaid Cymru

Mae’n siŵr taw prif bolisi Plaid Cymru cyn yr etholiad oedd yr addewid uchelgeisiol i …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime