google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Carchar y Parc yn methu delio â llif ‘brawychus’ cyffuriau – adroddiad

644103b0 1f81 11f0 acbf 41bf5b8e34ef.jpg

Advertisements

Roedd 1,700 o garcharorion adeg yr archwiliad, gyda 225 yn cyrraedd bob mis ar gyfartaledd, meddai Mr Taylor.

Dywedodd bod y sefyllfa’n dangos bod carchardai yn llefydd “bregus”, a bod pethau’n gallu “mynd o chwith yn sydyn” pan aiff pethau o’i le.

“Trwy golli cyfarwyddwr a dirprwy gyfarwyddwr cryf iawn, cafodd hynny effaith fawr, a hefyd y newidiadau i’r cytundeb a’r broblem recriwtio yn ardal Pen-y-bont, a thaflu cyffuriau i mewn i’r carchar ac yn sydyn fe gewch chi garchar oedd wedi bod yn llwyddiannus yn ansefydlogi yn gyflym.”

Yn ôl yr arolwg o garcharorion:

  • Roedd 54% wedi teimlo’n anniogel yn ystod eu hamser yn y carchar, sy’n waeth na charchardai tebyg;

  • Roedd 41% wedi cael eu bwlio neu eu targedu gan garcharorion eraill;

  • Roedd 44% wedi cael eu bwlio gan staff.

Dywedodd yr adroddiad bod G4S wedi “methu â chadw’r safonau uchel” oedd yn arfer bodoli yng Ngharchar Parc, gyda Mr Taylor yn dweud nad oedden nhw’n cyflawni eu cytundeb.

Dywedodd bod “anhrefn” gyda pobl dan ddylanwad cyffuriau, pobl yn eu gwerthu, a phobl yn defnyddio trais i dalu dyledion.

Ychwanegodd nad yw’r system gosbi o fewn y carchar yn gweithio, sy’n “anfon neges” i garcharorion nad oes canlyniadau i gamymddwyn.

Roedd yr archwiliad hefyd wedi canfod methiant i roi gwaith neu hyfforddiant i garcharorion, fel bod rhai yn eu celloedd am 21 awr y dydd.


BBC News

Views: 1

See also  Singleton Hospital maternity report reveals 'concerning' care

Check Also

Simon Brooks ‘ddim yn poeni am farw’ ers diagnosis canser

Dywedodd Dr Brooks, sydd âdau o blant sy’n oedolion ifanc, ei fod yn benderfynol o …

Formula One Esports world champion from Wales becomes youngest ever

George Morgan, 34, from Monmouthshire, first commentated on a sim race during the Covid lockdown …

South Africa 43-0 Wales: Steve Tandy ‘bitterly disappointed’ by loss

Wales head coach Steve Tandy says he was bitterly disappointed to finish the season with …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Soma 500mg benefits archives health care pharmacy. Shipping and payments biolongevity labs.