google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Oedi cyn angladdau yn ‘hunllefus’ i deuluoedd

Advertisements

Oherwydd yr holl oedi, mae Rhys yn dweud fod rhai teuluoedd yn colli’r cyfle i ffarwelio â’u hanwyliaid am y tro olaf.

“O’r blaen, roedd wythnos yn mynd a bydden i’n cael y person nôl, paratoi nhw, ac ro’dd y teulu yn gallu dod i’w gweld nhw” meddai.

“Amser ti’n meddwl bod tair gwaith yr amser yn gallu mynd nawr, dyw e ddim yn deg. Mae’r corff falle ddim mewn cyflwr da a mae e wedi mynd yn rhy bell i ni wneud unrhywbeth.

“Ma’ lot o bobl yn colli’r cyfle i weld rhywun am y tro diwethaf… Shwt ma’ hwnna yn mynd i chwarae ar eu meddyliau nhw, am gweddill eu hoes nhw?”

 hithau’n fis Chwefror, mae’n dweud mai dim ond dal i fyny mae’r cwmni â gwaith oedd gyda nhw cyn y Nadolig.

“Mae e’n system sydd fod i roi tawelwch meddwl a mae e’n rhoi hunllefau i bobl.

“Angladd yw’r peth diwethaf chi’n gallu gwneud i rywun, a mae pob teulu yn moyn gwneud cyfiawnder i’r person sydd wedi marw. Dyw hyn ddim yn gyfiawnder.

“Person yn cael ei gweld fel rhif arall ar bapur a dim fel unigolyn a cael y parch maen nhw’n haeddu.”


BBC News

Views: 2

See also  Young driver without speedometer caused crash, court hears

Check Also

Galw am newid polisïau cynllunio i ateb anghenion cymunedau

Dyfodol i’r Iaith yn galw ar lywodraeth newydd Cymru i gyflwyno newidiadau mawr i’r drefn …

World's largest scorpion roamed UK 400 million years ago, says expert

Fossil fragments suggest the Praearcturus gigas scorpion had a body about one metre long. BBC …

Gêm gyfartal siomedig i Gymru oddi cartref ym Montenegro

Mae Cymru yn yr ail haen y rowndiau rhagbrofol, sy’n golygu nad ydyn nhw’n gallu …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonads | free ad network | automated website traffic.