google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 9 2026

Angen ‘shifft mewn polisi’ ar addysg Gymraeg – comisiynydd iaith

Advertisements

Dywedodd Meirion Prys Jones, cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith, fod yr ystadegau’n “siomedig ond ddim yn syndod”.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am addysg Gymraeg ers 15 mlynedd ac yn y cyfnod yna does dim byd radical, dim deddfwriaeth o bwys wedi digwydd o gwbl,” meddai ar raglen Dros Frecwast.

Dywedodd fod “diffyg cynllunio sylweddol” gan y llywodraeth a bod angen mwy o gymorth ar awdurdodau lleol.

Ychwanegodd: “I ni o fewn y gymuned Gymraeg mae’n teimlo bod ein system addysg Gymraeg yn gweithredu’n dda, ond mae ‘na elfen o dwyll yma – hynny yw, ni’n credu hype ein hunain i raddau.

“‘Da ni’n dal i fod o gwmpas yr 20%.

“Tan ein bod ni’n gallu gwthio trwy’r nenfwd gwydr yna mewn i’r brif ffrwd addysg, ni ddim yn mynd i weld miliwn o siaradwyr byth.”


BBC News

See also  Paris Olympics: Top stories from final day of the 2024 Games

Check Also

Zan Vipotnik: Vitor Matos urges Swansea striker to last season’s form

Vipotnik scored 23 league goals last term, a haul which prompted Hull City to offer …

Swansea man who ‘should be dead’ reunites with teacher who changed his life

Sam’s reunion comes after Foster Wales launched a pilot across 37 schools in Swansea and …

Wales' papers: Mum died after cancer results delay and city 'riddled' with drugs

A review of the front page stories from the daily newspapers in Wales. BBC News …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime