google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ffrae am ffenest ‘ofnadwy’ tŷ gwyliau yng Ngwynedd

Wrth wrthod y cais, dywedodd y Cynghorydd Gruff Williams: “Pan gafodd ei gyflwyno’r tro diwethaf, wnaethon ni ddim gofyn am bâr o lenni, mi wnaethon ni ofyn iddyn nhw flocio’r ffenestri fel nad oedden nhw’n edrych ar adeiladau eraill ond doedd y datblygwr ddim yn poeni am ein penderfyniadau ni.”

Dywedodd y Cynghorydd Louise Hughes “nad oedd hi’n hapus o gwbl” gan ychwanegu bod y datblygwr “wedi anwybyddu’r broses gynllunio”.

Ychwanegodd: “Mi wnaeth o hefyd anwybyddu pryderon pobl leol oedd yn byw drws nesa. Mi es i i’r safle ac mae’r ffenest yn enfawr, a ddim yn cyd-fynd efo cymeriad yr ardal.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Gareth Jones bod y ffenest fawr yn “erchyll”.

Mae’r Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths yn dweud bod y ffordd “yn gul” a bod y ffenest “yn edrych dros adeiladau eraill”.

Ychwanegodd: “Efallai ei fod yn cyd-fynd efo’r rheolau ond ydy o’n iawn yn foesol?”

Pleidleisiodd pump cynghorydd o blaid gwrthod y cais, a phedwar yn erbyn.


Source link

Views: 1

See also  Welsh Labour accused of incompetence over Senedd candidate selections

Check Also

Newid polisi cludiant ysgol yn ‘rhwygo Llansannan yn ei hanner’

Er bod disgyblion uwchradd Llansannan hefyd wedi mynd i Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn yn …

Louis Rees-Zammit: Wales wing says more to come for next season

Louis Rees-Zammit says he has not settled back into rugby as quickly as he would …

Hosepipe ban for parts of Wales likely after record demand, warns Welsh Water

A hosepipe ban is likely to be introduced to around 33,000 properties in parts of …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
At its core, quantum computing utilizes the principles of quantum mechanics.