google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Storm Darragh: Pobl yn wynebu bod heb drydan ‘tan ddydd Iau’

Mae pobl yn ardal Blaenffos yng ngogledd Sir Benfro hefyd yn debygol o fod heb drydan am ychydig ddyddiau eto.

Dywedodd y Cynghorydd Iwan Ward bod amcangyfrif amseriad ailgysylltu ei gartref yntau “wedi newid bob dydd – ni ‘di ca’l gwybod hwyr neithiwr bydde fe’n mynd nôl am 10 or gloch nos Iau”.

Mae yntau hefyd yn canmol gwaith caled y “timoedd ar y ddaear” mewn ardal ble mae sawl eiddo’n cael eu dŵr o dyllau turio, neu’n adeiladau heb modd amgen i’w cynhesu.

“Dwi’n ffodus iawn,” meddai. “Dwi ‘di rhoi solar a batris yn y tŷ ond dim ond tyme bach o pŵer sy’ ‘da fi – dim ond digon ‘da fi i neud yn siŵr bod fi yn gallu bod ar y ffôn i trial delio pethe i bobl.”

Mae hynny, meddai, wedi cynnwys helpu hwyluso trefnidadau yn y dyddiau diwethaf i ffermwyr lleol, y gwasanaethau brys a’r awdurdodau lleol wrth sefydlu canolfannau cymunedol, ond mae’n poeni ynghylch “plant ysgol gynradd sydd falle ddim wedi gael pryd iawn o fwyd ers dydd Sadwrn”.

Mae’r Cynghorydd Ward wedi ceisio a methu sicrhau generadur gan National Grid.

“Ma’ nhw’n rhoi generators mewn os ma’n nhw’n ‘neud gwaith mawr ond ma’n nhw pallu neud e. Ma’ rhaid ni ga’l rhyw fath o stand nawr – trial pwsho i neud yn siŵr bod dyfodol pobl yn iawn.”


Source link

Views: 0

See also  Tata: GMB union steelworkers vote for industrial action

Check Also

County Championship: Glamorgan and Leicestershire play out draw

Leicestershire started the day with a lead of 60 but started slowly as Glamorgan were …

Land speed record car Babs returns to beach for centenary

The car took to the sands of Pendine, 100 years after a Welsh racing driver …

Helpu rhedwr marathon: ‘Profiad fydd yn aros efo fi am hir iawn’

Mae Gwion sy’n byw yn Nhrawsfynydd, yn dad i ferch fach, Manw, sy’n ddwy a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime