google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhieni a disgyblion wedi eu ‘methu’ gan safonau addysg

Roedd canlyniadau disgyblion Cymru ym mhrofion rhyngwladol mathemateg, darllen a gwyddoniaeth Pisa yn is nag erioed o’r blaen ac wedi disgyn yn bellach tu ôl i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

Fe wnaeth adroddiad yn gynharach eleni dynnu sylw at “ganlyniadau addysgol gwael ar draws y sbectrwm yng Nghymru, gyda pherfformiad arbennig o wael ymhlith disgyblion llai cefnog”.

Galwodd yr adroddiad am newidiadau i’r Cwricwlwm i Gymru ac oedi cyn cyflwyno cyrsiau TGAU newydd flwyddyn nesaf.

Dangosodd data o asesiadau darllen a rhifedd fod safonau plant saith i 14 oed wedi gostwng ers y pandemig.

Roedd y cwymp mwyaf yn y profion darllen Cymraeg – gyda’r gostyngiad i berfformiad yn cyfateb i 11 mis tu ôl i ganlyniadau 2020-21.

Yn ogystal, roedd yna fylchau sylweddol rhwng perfformiad plant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u cyd-ddisgyblion.

Roedd disgyblion tlotach 21 mis ar ei hôl hi ar gyfartaledd mewn darllen Saesneg a 31 mis mewn darllen Cymraeg.

Mae’r Ysgrifennydd Addysg hefyd wedi dod dan y lach ar ôl sylw yn y cyfryngau i’r ffordd mae plant ifanc yn cael eu dysgu i ddarllen yn Saesneg.

Dywedodd Lynne Neagle wrth Aelodau o’r Senedd ddydd Mawrth fod adroddiad blynyddol arolygwyr Estyn yn awgrymu bod “ysgolion yn cael y pethau sylfaenol yn iawn ond bod angen mwy o ffocws ar ddatblygu sgiliau lefel uwch”.


Source link

Views: 1

See also  'Hero' completes London Marathon to honour saving runner's life

Check Also

Olivia Rodrigo 'had to eat sausage rolls all day' in Welsh town

The pop superstar says she could not get her credit card to work anywhere outside …

Ai gwahardd cyfryngau cymdeithasol yw’r ateb i ddiogelu pobl ifanc?

Ychwanegodd hefyd ei bod yn credu bod pobl yn aml yn fwy parod i ddweud …

Newport County transfer news: Harrison Biggins signs permanent deal with Exiles

Newport County have completed the signing of midfielder Harrison Biggins on a permanent deal. The …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
southwest florida real estate – june 2026. We spend most of our time selecting the world’s finest cashew nuts. Just a moment....