google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Bargyfreithiwr yn galw am ail-agor achos Griff a Patti Thomas

Dywedodd Steve Wilkins, cyn uwch swyddog yn ymchwiliad John Cooper, wrth BBC Cymru y byddai’n “syndod” petai Cooper wedi bod yn gyfrifol am farwolaethau Griff a Patti Thomas, o ystyried bod miloedd o bunnoedd mewn arian parod wedi ei adael yn y ffermdy.

“Dwyn arian oedd cymhelliad penna’ John Cooper… roedd yn droseddwr proffesiynol,” meddai Mr Wilkins, sydd wedi ymddeol o’r heddlu ers hynny.

“Hefyd, roedd gan Cooper gysylltiadau cryf â’r lleoliadau lle roedd yn troseddu, ond doedd dim byd i’w gysylltu â’r ardal yn Llangolman, ac roedd gwahaniaethau rhwng llofruddiaethau Griff a Patti Thomas a’i droseddau eraill.”

Croesawodd Mr Wilkins adolygiad yr heddlu o achos Ffynnon Samson, gan ychwanegu: “Mae’n ymgais i ddarganfod y gwir, ac i ateb y cwestiwn os oedd yna drydydd person yn gysylltiedig, ac os oes yna ffordd o sefydlu hynny, yna fe ddylai hynny ddigwydd.”

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod yn parhau i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda theulu Griff a Patti Thomas, gan ychwanegu: “Nid yw’r amserlen ar gyfer cwblhau’r adolygiad yn gyhoeddus ar hyn o bryd, ond mae’r gwaith hwnnw yn parhau.”


Source link

Views: 1

See also  Wayne Hennessey, un o fawrion pêl-droed Cymru, yn ymddeol

Check Also

Olivia Rodrigo 'had to eat sausage rolls all day' in Welsh town

The pop superstar says she could not get her credit card to work anywhere outside …

Ai gwahardd cyfryngau cymdeithasol yw’r ateb i ddiogelu pobl ifanc?

Ychwanegodd hefyd ei bod yn credu bod pobl yn aml yn fwy parod i ddweud …

Newport County transfer news: Harrison Biggins signs permanent deal with Exiles

Newport County have completed the signing of midfielder Harrison Biggins on a permanent deal. The …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
I agree to be contacted by steve schoepfer via call, email, and text for real estate services. We are the best processors & traders of raw cashew nuts. Just a moment....