google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Karl Darlow wedi’i gynnwys yng ngharfan gyntaf Craig Bellamy

Mae un chwaraewr arall sydd eto i ennill cap yn y garfan hefyd – yr amddiffynnwr Owen Beck, sydd newydd ymuno â Blackburn Rovers ar fenthyg o Lerpwl.

Does dim lle yn y garfan i Joe Morrell, sydd heb glwb ar y funud, ond mae Ollie Cooper o Abertawe, Mark Harris o Rydychen, a Sorba Thomas – sydd ar fenthyg o Huddersfield yn Nantes – yn dychwelyd.

Mae Wes Burns a Nathan Broadhead o Ipswich, a David Brooks o Bournemouth yn absennol oherwydd anafiadau.

Dyw amddiffynwr Coventry, Jay Dasilva, ddim wedi’i gynnwys chwaith, na chwaraewyr fel Tom Lawrence, Dylan Levitt a Tom Bradshaw.

Mae Lewis Koumas, sydd ar fenthyg yn Stoke o Lerpwl, yn cadw ei le, ond does dim lle i nifer o chwaraewyr ifanc eraill oedd yng ngharfan olaf Page – Rubin Colwill, Fin Stevens, Joe Low, Charlie Crew, Charlie Savage a Matt Baker.

Mae nifer o’r rheiny yn debygol o gael eu galw i’r tîm dan-21 pan fydd Matty Jones yn cyhoeddi ei garfan ddydd Iau.


Source link

Views: 0

See also  Newid sylweddol i bolisi difa gwartheg TB ar y fferm

Check Also

Newid polisi cludiant ysgol yn ‘rhwygo Llansannan yn ei hanner’

Er bod disgyblion uwchradd Llansannan hefyd wedi mynd i Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn yn …

Louis Rees-Zammit: Wales wing says more to come for next season

Louis Rees-Zammit says he has not settled back into rugby as quickly as he would …

Hosepipe ban for parts of Wales likely after record demand, warns Welsh Water

A hosepipe ban is likely to be introduced to around 33,000 properties in parts of …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
So, are smart homes making us safer or more vulnerable ? the answer isn’t black and white.