google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pryder am gynllun i godi tyrbinau gwynt rhwng Corwen a’r Bala

Mae cwmni RWE yn cynnal sesiynau ymgynghori cyhoeddus er mwyn dod i ddeall pryderon a barn trigolion, ac yn ôl Eleri Davies, pennaeth ynni gwynt ar y tir i RWE,  maen nhw’n gwrando ar bryderon pobl leol.

“Da ni’n mynd trwy broses o asesu”, meddai.

“I gyrraedd net sero mae targedau heriol iawn ‘da’r llywodraeth yng Nghymru ac yn San Steffan hefyd, felly i gyrraedd bydd angen llawer o brosiectau fel hyn ar y tir ac ar y môr… mae angen popeth arnom ni.”

Ychwanegodd Ms Davies fod yr ardal ‘dan sylw wedi ei hadnabod gan Lywodraeth Cymru fel un addas i godi trybini tebyg, ac mai’r llywodraeth fydd â’r gair olaf o ran caniatâd cynllunio.

Mae RWE eisoes yn gyfrifol am sawl prosiect tebyg gan gynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy yng Nghymru i bweru dros 500,000 o gartrefi.

Mi fydd yr ymatebion oll yn cael eu hystyried cyn y bydd disgwyl i Lywodraeth Cymru ddod i benderfyniad ar ddyfodol y safle yn y flwyddyn 2025.


Source link

Advertisements

See also  Bonnie Tyler yn gwella ar ôl llawdriniaeth frys

Check Also

Gavin and Stacey star Laura Aikman revealed show twist to Strictly Come Dancing’s Sarah Hadland

Gavin and Stacey star Laura Aikman was sworn to secrecy before making her shock return …

Ospreys 31-14 Dragons: Swansea side return to St Helen’s in style in URC

Ospreys: Rogers; Hopkins, Watkin (co-capt), K Williams, Giles; Edwards, Morgan-Williams; G Thomas, Parry (co-capt), Botha, …

Cardiff boss reveals Aberfan emotions after emotional tribute

“I had an awareness of what happened there, but I never knew the depth of …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime