google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ymosodiad Southport: Cyhuddo llanc 17 oed o lofruddio

Mae llanc 17 oed sy’n hanu o Gaerdydd wedi ei gyhuddo o lofruddio a cheisio llofruddio, wedi’r achos o drywanu yn Southport ar Lannau Mersi ddydd Llun.

Bu farw tair merch, Bebe King, chwech oed, Elsie Dot Stancombe, saith oed ac Alice Aguiarri, naw oed yn yr ymosodiad mewn dosbarth dawns.

Mae’r llanc wedi ei gyhuddo o 10 achos o geisio llofruddio, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Dinas Lerpwl yn hwyrach ddydd Iau.

Cafodd wyth plentyn arall a dau oedolyn oedd yng nghanolfan Hart Space eu hanafu, gyda rhai yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol.

Mae’r diffynnydd, nad oes modd ei enwi oherwydd ei oed, hefyd wedi ei gyhuddo o gael gwrthrych â llafn yn ei feddiant.

Fe wnaeth Heddlu Glannau Mersi gyhoeddi’r cyhuddiadau yn ystod cynhadledd i’r wasg yn fuan wedi hanner nos.


Source link

Views: 1

See also  Tata Steel: Welsh first minister to go to India for Tata talks

Check Also

Starmer tells Plaid first minister he's 'open' to discussing more Senedd powers

It comes after a telephone call in which Sir Keir congratulated Plaid Cymru’s new first …

Women’s Six Nations: Gwen Crabb to miss Wales’ final game against Italy

Gwen Crabb will miss Wales’ final game of the Women’s Six Nations against Italy with …

Welsh rugby: The ecstasy and agony of selection for Wales players

Exeter back row Kane James is one of the new faces and probably the most …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Our las vegas private investigators handle complex corporate cases involving :. विद्यार्थियों के लिए स्वास्थ्य और सामाजिक जागरूकता कार्यक्रम : सशस्त्र सीमा बल का अद्भुत पहल।.