google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Carcharu dyn am ymosod yn rhywiol ar fachgen 14 oed

Ar ôl i Andrew MacKenzie gael ei ganfod yn euog dywedodd y bachgen ei fod yn obeithiol y bydd yn gallu symud ymlaen gyda’i fywyd a’i fod yn teimlo bod pwysau wedi codi oddi arno ond ychwanegodd y bydd yn rhaid iddo fyw gyda’r hyn ddigwyddodd am weddill ei oes.

Roedd MacKenzie wedi honni ei fod wedi troi dalen newydd ar ôl troi at Dduw ar ôl bywyd o dorcyfraith – pan gafodd ei garcharu ar sawl achlysur am dwyll a chyflenwi cyffuriau.

Clywodd y llys ei fod yn mynd â dynion i’r “caban” yng nghefn y siop lle roedd yn eu talu i gael rhyw ag ef, a’i fod wedi dod i gysylltiad â’r bachgen trwy un o’r dynion hynny.

Yn ôl y Barnwr Shoman Khan, roedd wedi dangos diffyg parch llwyr tuag at y dynion – “roeddech chi’n poeni am neb ond chi eich hun”, meddai wrtho.

Dywedodd wrtho ei fod yn siŵr ei fod wedi cael gwybod cyn yr ymosodiadau mai dim ond 14 oed oedd y bachgen.

“Rwy’n siŵr eich bod wedi bod yn meithrin perthynas amhriodol gydag ef, neu groomio,” meddai’r barnwr.

Clywodd y llys bod MacKenzie yn dal i fynnu ei fod yn ddieuog, ond wrth iddo gael ei hebrwng o’r llys, fe ddywedodd “sori” wrth deulu’r bachgen oedd yn y llys.

Cafodd Andrew MacKenzie ei ddedfrydu i wyth mlynedd o garchar, ac fe fydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf hanner y cyfnod dan glo cyn cael ei ryddhau ar drwydded.

Fe fydd yn gorfod cadw at amodau Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol am weddill ei oes, sy’n cynnwys peidio â chysylltu ag unrhyw dan 18 oed trwy gyfrwng electroneg.


Source link

Views: 0

See also  Thunderstorm warning for Wales on Sunday

Check Also

Premier League Darts: Luke Littler says Jonny Clayton has proved everyone wrong

Luke Littler says Premier League Darts leader Jonny Clayton has proved his doubters wrong, but …

Reform Wales leader distances himself from candidate's 'abuse in nurseries' claim

A Reform candidate said abuse in nurseries would “skyrocket” if parents receive more free childcare. …

‘Paratoi am fy marathon cyntaf wedi rhoi bywyd newydd ar ôl ymddeol’

Un arall fydd yn cymryd rhan yn y marathon am y tro cyntaf yw Elen …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Noun admission requirements faculty of health sciences. भारत बांग्लादेश सीमा पर बीएसएफ की बड़ी कार्रवाई, 7 बांग्लादेशी घुसपैठिए और 3 भारतीय दलाल गिरफ्तार. Perché i giocatori preferiscono gli elenchi dei casinò non aams.