google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Menyw yn ‘torri calon’ yn aros pum mlynedd am driniaeth

Dywed Plaid Cymru fod angen system ariannu decach gan San Steffan sy’n adlewyrchu anghenion iechyd poblogaeth Cymru yn well. Mae’r blaid yn addo recriwtio 500 o feddygon teulu, ac yn galw ar Lafur Cymru i ddatgan argyfwng iechyd.

Yn ôl y Ceidwadwyr, byddai’r gwasnaeth iechyd £500m ar ei ennill pe bai Llafur Cymru wedi gwario ar iechyd yn hytrach na pholisi i gynyddu nifer y gwleidyddion yn y Senedd. Maen nhw’n addo ad-dalu ffïoedd dysgu gweithwyr gofal, a sefydlu canolfannau gofal newydd.

Mae cyllideb Cymru £700m yn waeth yn sgil anrhefn y Torïaid, medd Llafur Cymru, a Llywodraeth Cymru wedi wynebu heriau cyllid digynsail dros y 14 mlynedd ddiwethaf. Maen nhw’n blaenoriaethu lleihau amseroedd aros, gan ddweud eu bod yn dymuno’r iechyd a gofal gorau i bobl Cymru.

Byddai Reform yn cyflwyno treth incwm cyfradd sylfaenol sero am dair blynedd i staff iechyd a gofal, medd y blaid, er mwyn gwella lefelau staffio. Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n codi tâl ar gleifion sy’n methu apwyntiad heb ddigon o rybudd.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol am i bawb fedru gweld meddyg teulu a deintydd yn hawdd. Byddan nhw’n cyflawni hyn drwy roi £760m yn ychwanegol i’r gwasanaeth iechyd yma bob blwyddyn.




Source link

Advertisements
Views: 2

See also  Addysgu plant mewn neuadd bentref dair blynedd wedi tân mewn ysgol

Check Also

Newid polisi cludiant ysgol yn ‘rhwygo Llansannan yn ei hanner’

Er bod disgyblion uwchradd Llansannan hefyd wedi mynd i Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn yn …

Louis Rees-Zammit: Wales wing says more to come for next season

Louis Rees-Zammit says he has not settled back into rugby as quickly as he would …

Hosepipe ban for parts of Wales likely after record demand, warns Welsh Water

A hosepipe ban is likely to be introduced to around 33,000 properties in parts of …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
tech news today.