Ymchwiliad llofruddiaeth yn datgelu tystion posib i ddynes goll o Gaerdydd

21ad5900 0324 11f0 97ff 036969a8e7c0.jpg

Mae ditectifs yn apelio ar y bobl yma – y dywedon nhw oedd yn dystion posib – i gysylltu â’r heddlu.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell: “Er gwaethaf nifer fawr o ymholiadau, nid oes gennym unrhyw dystiolaeth bod Charlene yn fyw ond rydym yn parhau i fod yn benderfynol o ddod o hyd i Charlene yn fyw a’i dychwelyd at ei theulu.”

Cafodd Ms Hobbs ei gweld o bosib yn “cerdded mewn llinell gyda dau ddyn” ar bont reilffordd, sy’n cael ei adnabod yn lleol fel y Bont Ddu, sy’n cysylltu Adamsdown a Sblot, ar 29 Gorffennaf am tua 11:20.

Cafodd un ei ddisgrifio fel dyn o daldra cyfartalog gyda chroen golau, yn ei 30au neu 40au.

Roedd y llall hefyd o daldra cyfartalog ac yn gwisgo gorchudd du ar ei wyneb ond nid yw’n glir os oedd yr orchudd yn rhan o gôt, sgarff, neu falaclafa.

Dywedodd y llu y gallai Ms Hobbs fod wedi bod yn gwisgo siaced las.

Yr ail dro i Ms Hobbs cael ei gweld o bosib, roedd hi’n sefyll ger desg diogelwch Asda yn Coryton gyda bachgen tua phedair oed ar 1 Tachwedd am tua 17:30.

Aeth dynes, a gafodd ei disgrifio fel tua 40 oed gyda gwallt coch tywyll byr, at Ms Hobbs ac fe adawodd y tair yr archfarchnad gyda’i gilydd, meddai Heddlu De Cymru.


BBC News

Views: 0

Check Also

Cc0dbee0 48ec 11f0 991c 433854dc49c7.jpg

A look back at the town through the years

Merthyr Tydfil is in the spotlight at the moment as the town’s Cyfarthfa Castle celebrates …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Do not donate blood while taking accutane and for at least 30 days after you stop taking it.