google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Y sgiliau am ddiflannu’ – 48% yn llai o brentisiaethau adeiladu

Advertisements

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi’r wythnos hon y bydd cyrsiau prentisiaethau newydd ar gyfer maes adeiladu ar gael yn ddiweddarach eleni.

Dywedon nhw y bydd yn helpu i “lenwi’r bylchau sgiliau a nodwyd gan y diwydiant”.

Maen nhw’n dweud y bydd y cyrsiau lefel 2 newydd mewn gosod brics, gwaith coed ar safleoedd, sgaffaldio a chynnal a chadw adeiladu ar gael cyn hir.

Mae James Owen, prif swyddog gweithredol Medr, yn croesawu’r cyhoeddiad gan y bydd yn “diwallu anghenion cyflogwyr a dysgwyr ar gyfer llwybr hygyrch i yrfaoedd cynaliadwy yn y diwydiant adeiladu”.

Mae Colegau Cymru hefyd yn galw ar lywodraeth nesaf Cymru i gydweithio â Medr er mwyn ailymrwymo rhaglen brentisiaethau newydd.

Mae angen darparu o leiaf 125,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel i bob oed dros dymor y Senedd nesaf, medd llefarydd.

Dywedodd Aled Jones-Griffith, prif weithredwr Grŵp Llandrillo Menai, y bu newid i ofynion mynediad ar gyfer prentisiaid adeiladu yn 2022.

Yn ei ôl ef, does dim angen gwneud mwy o ran denu pobl i wneud prentisiaeth – mae’r galw yno, ond nid y gallu na’r cyllid.

“Base hi’n braf gweld y llywodraeth yn ymrwymo i ddarparu 125,000 o brentisiaethau yn ystod y tymor nesa,” ychwanegodd.


BBC News

Views: 2

See also  Welsh Water: Customers react to 'painful' bills hike

Check Also

Marlyn Samuel a’i gyrfa sgwennu ac ennill Medal Ddrama’r Urdd

“O’n i wastad isio sgwennu nofel. Ond do’n i ddim yn gwybod sut i fynd …

‘Colli’n ffrind gorau ar y mynydd – ond ry’n ni’n dal i ddringo’

Yn ogystal â dod o hyd i bartneriaid dringo newydd yn nhad Jack a’i bartner …

Seremonïau Urdd: Croesawu newid yr Awenau oedd ‘bach yn Marmite’

Dywedodd Angharad Prys, Swyddog Celfyddydau’r Urdd, fod y penderfyniad i newid wedi dod ar ôl …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
In many instances red flags are raised at the time of death of florida residents who otherwise own northern property. The best hair cut in london – you finally found it !. lipo pure (mic b12).