‘Pobl ddim yn deall bod ni’n siarad Cymraeg gan bod ni ddim yn wyn’

Yn 2021 symudodd Nyarai Hector a’i theulu o Lundain i Lanelli.

Roedd symud o ddinas mor amrywiol lle’r oedd mwy o bobl yn edrych fel hi yn brofiad “brawychus”, meddai.

“Byddwn yn cerdded i lawr y stryd ac roedd fel 20 o bobl fel fi, ond nawr fi’n cerdded o gwmpas a gweld prin neb.”

Ychwanegodd iddi gael ei galw’n “ecsotig” yn yr ysgol ers symud.

Ers i Nyarai ddechrau mynd i sesiynau yn We Move, mae’n dweud bod cyfle iddi “uniaethu â chael rhywun i siarad â nhw”.

“Mae’n fy ngalluogi i uniaethu â phobl eraill sydd â’r un profiad â mi, yn enwedig lle rydw i yng Nghymru, does gen i ddim llawer o bobl debyg imi yn fy nghymuned.”

Bydd Indigo a Nyarai yn teithio i Fanceinion i gymryd rhan yng nghôr Plant Mewn Angen ar 15 Tachwedd.

Mae’r ddwy yn dweud eu bod yn “gyffrous” am y profiad newydd.

Dywedodd Nyarai: “Rwyf wrth fy modd yn canu mewn côr, yn enwedig gyda Molara. Mae ei chaneuon yn wych.

“Felly dwi’n meddwl bod cael y profiad yna eto wir yn mynd i fy helpu gyda fy hyder gyda chanu.”


Source link

Views: 0
See also  Plaid Cymru's Rhun ap Iorwerth unveils plans to help NHS

Check Also

Storm Darragh: Dros 30,000 heb drydan

Mae’r National Grid yn dweud bod dros 32,000 o gartrefi yn y de heb drydan, …

Leave a Reply