google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Sul y Cofio: Aberth y meddygon ar faes y gâd

Wrth i nifer y clwyfedigion gynyddu bu’n rhaid i’r Swyddfa Ryfel newid ei safiad o safbwynt merched fel meddygon.

Ym 1916, dechreuodd y fyddin Brydeinig ganiatáu i feddygon benywaidd cymwys wasanaethu gyda Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin y tu ôl i’r rheng flaen.

Roedd Dr Katherine Rosebery Drinkwater – meddyg benywaidd cyntaf Wrecsam – ymhlith y cyntaf i wirfoddoli i wasanaethu.

Roedd Katherine ers dechrau’r rhyfel wedi bod yn annerch mewn ralïau recriwtio ac yn hyfforddi nyrsys a swyddogion cymorth cyntaf yn y ddinas.

O 1916 ymlaen bu yng ngofal ysbyty yn Valletta, ar ynys Malta.

Ar drothwy’r rhyfel ym 1913, roedd Gertrude Madley o Lanelli wedi dechrau cwrs nyrsio tair blynedd yn Ysbyty Cyffredinol ac Ysbyty Llygaid Abertawe.

Yn fuan wedi cymhwyso, ym mis Medi 1916, ymunodd â Gwarchodfa Gwasanaeth Nyrsio Milwrol Ymerodrol y Frenhines Alexandra a bu’n gwasanaethu yn Ffrainc a Malta.

Yn y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd byd treuliodd Gertrude gyfnodau yn byw yn yr Unol Daleithiau ac yna yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd fel Prif Nyrs gyda’r Groes Goch Americanaidd.


Source link

Views: 1

See also  Quad bike fall bent me in half like a taco, says Welsh farmer

Check Also

Osprey swallows fish hook in nest with newborn chicks

An osprey is being closely monitored after swallowing a fish hook attached to a trout. …

'Tornado-like flame' as smoke impacts major commuter route in rush hour

People are told to keep their windows closed due to smoke from an industrial fire. …

Teyrnged i ddyn 18 oed ‘oedd â’i holl fywyd o’i flaen’

Dywedodd ei deulu fod Dominic Bailey newydd gwblhau ei arholiadau Safon Uwch yn Ysgol Uwchradd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Just a moment.... Link. Coming.