‘Siawns slim’ gan Evans am y bencampwriaeth – ‘ond pwy a ŵyr?’


Mae Elfyn Evans wedi cydnabod mai “siawns slim” sydd ganddo o ennill Pencampwriaeth Rali’r Byd eleni, a hynny ar drothwy rali olaf y tymor.

Gallai’r Cymro gipio’r bencampwriaeth os yw’n ennill Rali Monza – ond byddai angen i Sebastien Ogier, sydd 17 pwynt o’i flaen yn y bencampwriaeth, orffen yn ddim uwch na phedwerydd.

Fe orffennodd Evans yn gyntaf ac ail yn ei ddau rali diwethaf, felly gall y gŵr o Ddolgellau fod yn hyderus.

Ond ar ôl iddo dod yn ail i Ogier yn y bencampwriaeth llynedd – a hynny ar ôl llithro yn ei gar a cholli’r fantais – ai’r un fydd ei ffawd eleni?



BBC News

WP Twitter Auto Publish Powered By : XYZScripts.com