google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Siarad a syrffio i fyw gydag iselder

Advertisements

Mae gan Dafydd feddwl y byd o’i therapydd oedd yn sylweddoli nad oedd siarad yn unig yn gweithio iddo. Ei therapydd wnaeth ei gyfeirio at gwrs syrffio 10 wythnos.

Yn araf deg, fe wnaeth dechrau syrffio ar ben y therapi siarad a meddyginiaeth drawsnewid ei iechyd meddwl.

“Nath y 10 wythnos hyn a syrffio yn y dŵr a bod gyda phobl roi rhyw fath o reswm i fi fyw.

“Ar ôl blwyddyn a hanner o’n i ffili gweithio, o’n i moyn lladd fy hun, o’n i’n meddwl bod dim pwrpas a lle i fi yn y byd, doedd dim gyda fi unrhyw reswm i ddihuno. O’n i mewn lle isel iawn.

“Wnaeth syrffio ddangos i fi beth galle bywyd fod a rhoi’r profiad o fod yn hapus i fi.

“Trwy hwnna o’n i wedi ffeindio rôl natur yn fy mywyd a ‘mod ei angen i edrych ar ôl fy hun.

“Oedd hwnna wedyn wedi troi yn dŵl pŵerus iawn i ddechrau engagio yn fwy pwrpasol gyda’r therapi fwy traddodiadol o siarad.”

Roedd gweld y newid yn ei mab yn rhyddhad enfawr i’w fam a oedd wedi treulio blynyddoedd cynnar ei arddegau’n ei anfon o un apwyntiad meddygol i’r llall.

Eglurai Dafydd fod ei symptomau corfforol yn sgil ei iselder wedi ei wneud yn anodd iddo dderbyn y diagnosis cywir sef iselder.

Meddai: “Tua diwedd blwyddyn wyth es i’n sâl iawn, ro’n i’n peswch drwy’r amser ac yn teimlo poen dros bob man ac yn gaeth i ‘ngwely.

“Wnes i orffen lan yn Ysbyty Glangwili ac yno wnaeth un o’r doctoriaid ofyn i fi os o’n i wedi meddwl erioed fod iechyd meddwl yn underlyio popeth.

“Ar y pryd roedd mwy o stigma rownd iechyd meddwl a dim gymaint o ymwybyddiaeth.”


BBC News

Views: 1

See also  Bangor: Dyn yn ddieuog o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus

Check Also

Man saves neighbours after lightning strikes roof and fire spreads

Residents slept, one with an eye mask on and ear plugs in, as the blaze …

Families' fury over 'brazen' appeal bid by paddleboard boss who caused four deaths

Nerys Lloyd’s bid to shorten her sentence caused further pain, two of her victims’ families …

Wales forward Elise Hughes leaves promoted Crystal Palace

Wales forward Elise Hughes has left Crystal Palace, a little over a month since helping …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Just a moment.... Link. New wordpress website is being built and will be published soon.