Pwysau’r gaeaf: 5,000 gwely ysbyty a tharged brechu 75%


Ysbyty maes Parc y Scarlets Llanelli

Image caption

Cafodd ysbytai maes eu hadeiladu ar draws Cymru o fewn ychydig wythnosau i ddechrau’r pandemig

Bydd 5,000 o welyau ysbyty ychwanegol – hanner mewn ysbytai maes – i ymdopi â phwysau’r gaeaf, gan gynnwys y posibilrwydd o ail don o Covid-19.

Wrth amlinellu Cynllun y Gaeaf GIG Cymru, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething fod disgwyl i’r gaeaf fod yr “anoddaf eto”.

Mae’r capasiti ychwanegol yn bodoli er mwyn delio â’r sefyllfa waethaf posib.

Yn y cyfamser, bydd y brechlyn ffliw ar gael i holl deuluoedd pobl sydd ar y rhestr gwarchod.

Heb gymryd camau ym mis Mawrth, meddai’r Gwasanaeth Iechyd, mae’n bosib y bydden nhw wedi gorfod delio â 100,000 o dderbyniadau i’r ysbyty, yn ogystal â “nifer sylweddol iawn o farwolaethau”.

Dywedodd y prif weithredwr, Dr Andrew Goodall: “Os oes ail big, mae’n rhaid bod capasiti ar gael.”

Beth am yr ysbytai maes?

Bydd rhagor o fanylion am batrwm ysbytai maes yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi’n ddiweddarach.

Sefydlwyd y rhwydwaith yn wreiddiol i ddarparu 6,000 o welyau ychwanegol i ymdopi â’r sefyllfa waethaf posib.

Ar gyfer y gaeaf yma, bydd rhai o’r 17 o ysbytai maes hynny sydd eisoes ar waith yn parhau, tra bydd modd i eraill sydd ddim eu hangen mwyach ddychwelyd at eu hen ddefnyddiau.

Image copyright
Getty Images

Image caption

Cafodd Stadiwm Principality ei drawsnewid yn ysbyty maes i drin cleifion Covid-19

Eisoes rydym ni’n gwybod y bydd yr ysbyty yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, sydd â 2,000 o welyau, yn cael ei ddadgomisiynu, gydag uned 400 gwely gwerth £33m yn cael ei hadeiladu ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru.

Bydd ysbyty maes Bay Studios yn Abertawe yn parhau, a bydd y gwelyau ychwanegol ar gael i fyrddau iechyd cyfagos os oes angen.

Gallai ysbytai eraill gael cyfleusterau dros dro ar y safle.

“Yn anffodus, mae llawer o bobl wedi colli anwyliaid o ganlyniad i Covid-19. Mae atal mwy o deuluoedd rhag profi trychineb o’r fath yn hollbwysig wrth gynllunio a gwneud penderfyniadau,” meddai Mr Gething.

Dywedodd fod yn rhaid i’r gwasanaeth iechyd barhau i fod yn wyliadwrus, gyda gwasanaethau’n gallu ymateb “yn gyflym ac yn hyblyg i amgylchiadau sy’n newid”.

Beth am gartrefi gofal?

O ran cartrefi gofal, dywedodd y gweinidog: “Byddwn yn parhau i ddarparu cymorth ac amddiffyn staff a phreswylwyr er mwyn osgoi, os yw’n bosibl, gorfod cymryd y mesurau eithafol yr oedd eu hangen ym mis Mawrth.”

Mae’r cynlluniau hefyd yn dweud er y gallai cyfnodau clo lleol gyfyngu ar ymweliadau, bydd “rhaid i wasanaethau iechyd a chymdeithasol wneud yr hyn sy’n bosib i annog a bod yn greadigol yn y ffordd rydym yn defnyddio dulliau cyfathrebu eraill fel y gall teuluoedd gadw mewn cysylltiad”.

  • Cyfnod clo ‘mewn saith wythnos neu lai’ heb newid
  • Troi stadiwm yn ôl i’w ddefnydd gwreiddiol

Beth am frechiadau?

Mae targed o 75% wedi’i bennu ar gyfer brechiadau rhag y ffliw i’r rhai sy’n fregus, yn ogystal â gweithwyr iechyd a chymdeithasol.

Yn ogystal â phobl sy’n cael eu gwarchod, bydd yn cael ei gynnig i’w teuluoedd agos.

Image caption

Dywedodd Dr Andrew Goodall bod lefelau galwadau 999, triniaethau achosion brys a gofal sylfaenol yn brysur iawn unwaith eto

Os bydd stociau’n caniatáu, bydd hefyd yn cael ei gynnig i bawb dros 50 oed.

Os a phan fydd brechlyn Covid-19 ar gael, dywedodd GIG Cymru fod cynlluniau ar waith i’w gyflwyno mor gynnar â mis Tachwedd – a fyddai’n ymwneud â gwahanol staff y GIG mewn gwahanol leoliadau.

Beth am drin salwch arall, fel canser?

Mae GIG Cymru hefyd am sicrhau bod ardaloedd ar wahân mewn ysbytai, fel y gall triniaeth arferol barhau. Ond mae’r gwasanaeth yn cydnabod os daw ail don o Covid-19 yr un pryd a phwysau eraill y gaeaf, yna efallai y bydd yn rhaid gohirio triniaethau rheolaidd.

“Mae ein galwadau 999 mwy neu lai yn ôl i’r arfer, ac mae derbyniadau achosion brys yn dychwelyd i lefelau arferol, ac mae gofal sylfaenol yn brysur iawn,” meddai Dr Goodall.

Dywedodd fod pryder o hyd am wasanaethau hanfodol fel canser a chleifion eraill ar restrau aros.

“Fe wnaethom ni flaenoriaethu canser o’r cychwyn cyntaf,” meddai.

“Mi oedden ni’n poeni pan ollyngodd atgyfeiriadau tua 60% yn gynnar [yn y pandemig].

“Mae atgyfeiriadau wedi cynyddu i lefelau sy’n uwch nag y byddwn fel arfer yn disgwyl eu gweld, ond mae triniaethau canser ychydig yn is o hyd nag y byddwn yn disgwyl eu gweld.

“Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn gweithio drwy gynllun i ddelio â phobl ar restrau aros.”



BBC News