Pryderon am gyflwr Afon Gwy o achos ffermydd ieir


ChickensImage copyright
PA

Fe ddylai ansawdd dŵr Afon Gwy gael ei brofi’n amlach oherwydd pryderon ynghylch cyflwr yr afon.

Dyna alwad ymgyrchwyr amgylcheddol sy’n honni y gallai ffosffadau o ffermydd ieir ym Mhowys fod yn cyrraedd yr afon gan niweidio’i hecoleg.

Mae deiseb – sydd â mwy na 75,000 o gefnogwyr – yn galw am oedi unrhyw geisiadau newydd am unedau dofednod yn y sir.

Ond yn ôl un undeb amaethyddol mae’r ddeiseb yn gamarweiniol ac mae ffermwyr ieir yn cael eu rheoleiddio’n llym.

Mae Cyngor Powys yn dweud nad oes modd iddyn nhw atal y broses gynllunio.

Image caption

Mae Kate Bull yn dweud nad oes cymaint o fywyd gwyllt yn byw ar yr afon yn ddiweddar

Cafodd y ddeiseb ei dechrau gan Kate Bull – menyw o Lanfair Llythyfnwg ym Mhowys – sydd wedi nofio yn yr afon ers blynyddoedd.

Dywedodd iddi sylwi yn ddiweddar nad oes cymaint o fywyd gwyllt yn byw ar yr afon.

“Mae fy neiseb yn gofyn i Gyngor Sir Powys gyflwyno moratoriwm ar unwaith ar bob caniatâd cynllunio ar gyfer unedau dofednod dwys yn y sir, fel y gallwn ni asesu cyflwr yr afonydd a’r difrod posibl sy’n cael ei wneud trwy ddŵr yn rhedeg o ffermydd ieir i’n hafonydd ond yn enwedig yr Afon Gwy.”

  • Pryder am effaith siediau ieir ar amgylchedd Powys
  • Ffermydd ieir yn ‘bygwth yr amgylchedd’

Mae Afon Gwy yn llifo trwy Bowys, lle bu cynnydd mawr yn nifer y ffermydd ieir yn ystod y degawd diwethaf.

Dywed ymgyrchwyr fod Cyngor Powys wedi cymeradwyo 75 o unedau dofednod newydd mewn tair blynedd – bron i bedair gwaith cymaint â gweddill Cymru.

Maen nhw’n ofni y gallai ffosffadau o garthion ieir fod yn cyrraedd yr afon, gan hybu tyfiant algae sy’n mygu bioamrywiaeth.

‘Ansawdd y dŵr yn gwella’

Ond mae ffermwyr Powys sydd wedi symud i ffermio dofednod yn gwadu hyn, gan ddweud eu bod wedi arallgyfeirio mewn ymateb i alw cwsmeriaid am fwy o gig gwyn ac wyau maes, ac er mwyn creu dyfodol cryfach i’w busnesau a’u cymunedau gwledig.

Yn ôl Aled Jones – dirprwy lywydd undeb NFU Cymru – mae’r hyn sydd wedi cael ei roi yn y ddeiseb yn gamarweiniol.

“Dwi’n meddwl bod gwreiddiau y ddeiseb yma wedi’u seilio’n anghywir dwi’n ofni,” meddai. “Y gwirionedd yw hyn – a nid ffigyrau NFU Cymru yw’r rhain, ond data Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n dangos bod ansawdd dŵr yn yr afon yn gwella ac wedi bod yn gwella ers sawl blwyddyn.

“Hoffwn i bwysleisio’r ffaith, gan fod y safonau mor uchel a bod goblygiadau llygru mor uchel hefyd, mae lefelau hwsmonaeth yn yr unedau yma yn uchel tu hwnt.”

Image caption

Kate Bull a’i mab yn nofio yn Afon Gwy

Mae’r ddeiseb yn galw am moratoriwm ar unrhyw siediau ieir newydd er mwyn caniatáu i brofion ddigwydd ar ddŵr Afon Gwy yn y gobaith o ddeall maint unrhyw lygredd.

Ond yn ôl y Cynghorydd Myfanwy Alexander, aelod o Gabinet Cyngor Powys, dyw oedi’r broses gynllunio ddim yn bosibl.

“Does ‘na ddim modd i ni wneud moratoriwm achos mae’n rhaid i ni drin pob un ymgeisydd am ganiatâd cynllunio yn deg ac yn gyfartal â phawb arall.

“Pe tasen ni yn rhoi polisi mewn lle yn gwrthod pob cais, fe allai’r bobl sy’n gwneud y ceisiadau dynnu’r cyngor trwy’r llysoedd gan greu costau uchel, a byddai’n rhaid i drethdalwyr Powys dalu am hynny.”

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael eu cyhuddo gan gorff sy’n cynrychioli pysgotwyr o droi llygaid ddall i’r hyn mae pysgotwyr yn disgrifio fel “trychineb ecolegol” ar Afon Gwy.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru nad yw’n briodol i roi bai ar ffermydd ieir.

Mae’r rheoleiddiwr yn aros am ganlyniadau arolwg sydd ar y gweill i ddata ansawdd dŵr Afon Gwy.



BBC News