Pryder bragdai bach am gynnydd treth cynhyrchu cwrw


Bragdy

Image caption

Phil Thomas gyda chynnyrch bragdy Twt Lol yn Nhrefforest

Mae perchennog bragdy bach yn y Cymoedd yn rhybuddio y gallai llawer o fragdai tebyg fynd i’r wal wrth i Drysorlys Llywodraeth San Steffan ystyried codi’r dreth ar gynhyrchu cwrw.

“Yn anffodus mae ‘na lawer o fragdai bach ein maint ni fydd yn mynd i’r wal,” meddai perchennog bragdy Twt Lol yn Nhrefforest, Phil Thomas.

Ar hyn o bryd, fe fydd bragwyr bach ond yn talu hanner y dreth ar gwrw os byddan nhw’n cynhyrchu hyd at 880,000 o beintiau’r flwyddyn.

Ond bwriad y Trysorlys ydy dod â’r swm hwnnw i lawr i 370,000 o beintiau – a’r dreth felly’n codi’n gynt.

“Bydd y cynnydd yn y dreth yn newid ein cynlluniau ni am eleni” meddai Mr Thomas.

“Roedden ni’n bwriadu ehangu a chyflogi mwy o bobl fel bod ni’n gallu bragu mwy, dan ni wedi prynu mwy o offer er mwyn gwneud hwnna, ond mi allai’r newid yn y dreth wneud hynny’n gost-aneffeithiol.”

‘Ansicrwydd’

Bragdy arall sy’n anfodlon ydy Cwrw Llŷn yn Nefyn.

“Mae o’n creu ansicrwydd mawr am y dyfodol – faint yn fwy o dreth fyddwn ni’n gorfod talu, a dan ni newydd fuddsoddi rŵan am ddau danc bragu newydd gyda’r bwriad o greu swyddi ychwanegol at yr haf nesa,” meddai Iwan ap Llyfnwy o’r bragdy.

“Yng nghanol y Covid a sut mae pethau ar hyn o bryd mae’n creu lot mwy o ansicrwydd.”

Image caption

Dywedodd Iwan ap Llyfnwy o fragdy Cwrw Llŷn bod y sefyllfa yn “creu lot mwy o ansicrwydd”

Wrth ymateb, fe ddywedodd y Trysorlys fod y dreth is i fragdai bach yn fuddsoddiad o £65m o bunnau yn y maes bragu cwrw crefft.

Fe ddywedodd llefarydd fod cannoedd o fragdai wedi dweud bod y dreth yn codi’n rhy gyflym fel y mae, ac felly’r bwriad ydy ei chodi’n fwy graddol.

Ychwanegon nhw, o gyflwyno’r newid, fyddai dim gwahaniaeth i 80% o fragdai – sef y rhai lleiaf.

Ond dydy hynny ddim yn esboniad sy’n bodloni Phil Thomas, sydd wedi gorfod dygymod â llifogydd yn ei fragdy eleni, yn ogystal â thrafferthion coronafeirws.

“Mae’n bwysig cofio bod y bragdai mawr a’r cwmnïau sy’n berchen ar y tafarnau yma – fel y bragdai sydd ynghlwm i dafarnau – maen nhw wedi bod yn lobïo San Steffan am y newid yma,” meddai.

“Dim ond 5% o’r cwmnïau yma mae’r bragdai bach yn gallu gwerthu cwrw iddyn nhw. Maen nhw’n trïo cau’r farchnad.”

Mae Llywodraeth y DU yn dweud na ddaw’r newid i rym yn llwyr tan ddiwedd 2021.



BBC News