Pleidleisio am y tro cyntaf: Ble i ddechrau?
Meleri Williams
BBC Cymru Fyw
Mae ‘na wythnos i fynd tan yr etholiadau lleol, pan fydd pobl 16 ac 17 oed yn pleidleisio dros eu cynghorwyr lleol am y tro cyntaf.
Ond ydy’r holl beth yn eich drysu?
Dyma’ch cyfle chi i ofyn ‘ble i ddechrau?’ a chael yr holl atebion.
BBC Cymru Fyw sy’n ateb cwestiynau criw o bobl ifanc Ysgol Gyfun Gŵyr.
Mae Delyth, Seren a Jonny yn holi am bwrpas yr etholiad, pwy yw’r pleidiau a sut mae’r system bleidleisio’n gweithio
Beth yw pwynt yr etholiad?
Dyma’r etholiad sy’n penderfynu pwy fydd yn rheoli’ch cyngor lleol.
Y cyngor sy’n gwneud penderfyniadau am bethau fel ysgolion, cyfleusterau hamdden, tai a gwasanaethau bws.
Dyw’r cyngor lleol ddim yn gallu creu cyfreithiau, ond maen nhw’n penderfynu sut mae gwasanaethau lleol yn cael eu rheoli.
Bydd cynghorwyr lleol yn ceisio mynd i’r afael ag unrhyw broblemau yn eich ardal a chyflwyno syniadau am sut i’w gwella.
Felly, dyma’ch cyfle chi i bleidleisio dros eich cynghorydd lleol a’r blaid hoffech chi weld yn rheoli eich ardal chi.
Fel person ifanc, pam bod yr etholiad yn bwysig?
Gruff sy’n holi pa bynciau sy’n bwysig i bobl ifanc yn yr etholiadau lleol
Mae cynghorwyr a chynghorau’n cael dylanwad ar nifer o bynciau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar bobl ifanc.
O ysgolion i drafnidiaeth gyhoeddus, cyrtiau chwaraeon i ddatblygu tai yn yr ardal. Mae cynghorau’n gallu penderfynu ar bob un.
Yr iaith Gymraeg oedd yn cael sylw pobl Ceredigion yn ddiweddar, a chadw pobl ifanc yn eu hardaloedd lleol.
Ar Ynys Môn, roedd pobl yn poeni am fedru fforddio prynu tŷ wrth i gyfran y cartrefi gwyliau gynyddu.
Etholiadau Lleol 2022
Pwy sy’n sefyll yn yr etholiad?
Y prif bleidiau yng Nghymru yw’r Blaid Lafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Ond ymhob etholiad lleol, bydd gwahanol bleidiau, a nifer o ymgeiswyr o bleidiau llai, yn sefyll mewn gwahanol wardiau.
Hefyd fe fydd llawer o ymgeiswyr annibynnol – sydd ddim yn cynrychioli plaid – yn sefyll mewn wardiau unigol.
Fel y mae’r map yn dangos, roedd gan y blaid Lafur reolaeth o saith awdurdod ar ôl yr etholiad diwethaf yn 2017.
Roedd Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr yn rheoli un yr un.
Grwpiau o aelodau annibynnol oedd yn rheoli tair awdurdod, a doedd dim rheolaeth lawn yng ngweddill y siroedd.
Roedd etholiad y llynedd. Beth sy’n wahanol eleni?
Dylan (chwith) sy’n holi beth yw’r gwahaniaeth rhwng etholiad y Senedd a’r etholiadau lleol
Yn 2021, cafodd etholiad Senedd Cymru ei gynnal. Dyna oedd y cyfle i ethol aelod i’ch cynrychioli yn Senedd Cymru ym Mae Caerdydd.
Ond eleni, pleidleisio am gynghorwyr lleol fyddwch chi er mwyn gweithredu ar bynciau yn eich ardal o fewn eich cyngor sir.
Sut mae’r system bleidleisio’n gweithio?
Mae etholiadau lleol yng Nghymru yn defnyddio system ‘cyntaf i’r felin’.
Mewn ambell ward, bydd mwy nag un sedd yn cynrychioli’r ward. Mae hynny’n golygu y gallwch bleidleisio dros fwy nag un ymgeisydd mewn rhai ardaloedd.
Felly, yr enillydd fydd yr ymgeisydd neu ymgeiswyr sy’n derbyn y nifer uchaf o bleidleisiau.
Beth sy’n digwydd ar ddiwrnod pleidleisio?
Ar 5 Mai, byddwch chi naill ai’n mynd i’ch gorsaf bleidleisio leol neu byddwch chi wedi llenwi’ch pleidlais ar bapur a’i bostio.
Bydd darn o bapur yn rhestru’r holl ymgeiswyr ar gyfer eich ardal. Bydd esboniad ar y papur o sawl ymgeisydd y gallwch bleidleisio drostynt.
Byddwch chi’n rhoi [X] yn y bocs ger yr ymgeisydd neu ymgeiswyr o’ch dewis.
Pryd fyddwn ni’n cael clywed y canlyniadau?
Mae Mirain, Elena a Sophia eisiau gwybod beth fydd yn digwydd ar ddiwrnod yr etholiad a ble y dylent fynd am ragor o wybodaeth
Bydd y cyfrif yn digwydd ddiwrnod wedi’r etholiad, nid dros nos fel mewn rhai etholiadau.
Bydd yr amseru’n amrywio o ardal i ardal ond fe fydd y canlyniadau’n dechrau cyrraedd o ddydd Gwener 6 Mai.
Ble gall pobl ifanc fynd i gael rhagor o wybodaeth am bleidleisio?
Bydd gan eich cynghorau lleol yr holl wybodaeth ar eu gwefannau. Mae’n bosib y cewch wybodaeth drwy’ch blwch post hefyd.
Bydd gwefan ac ap BBC Cymru Fyw yn dod a’r diweddaraf cyn y diwrnod pleidleisio, a’r holl ganlyniadau wrth iddyn nhw gael eu cyhoeddi.
Cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol a thudalennau’r pleidiau a’r cynghorau.
Racqua Composite Mesh Barefoot Water Shoes Men Women
£23.98 (as of June 2, 2023 18:55 GMT +01:00 - More infoProduct prices and availability are accurate as of the date/time indicated and are subject to change. Any price and availability information displayed on [relevant Amazon Site(s), as applicable] at the time of purchase will apply to the purchase of this product.)Skechers Men's Equalizer 4.0 Triple-Play Trainers, 8 UK
£36.00 (as of June 2, 2023 18:55 GMT +01:00 - More infoProduct prices and availability are accurate as of the date/time indicated and are subject to change. Any price and availability information displayed on [relevant Amazon Site(s), as applicable] at the time of purchase will apply to the purchase of this product.)Kappa Unisex Adults’ Bash Mid Fur Sneaker, 1111 Black, 9.5 UK
£45.23 (as of June 3, 2023 16:07 GMT +01:00 - More infoProduct prices and availability are accurate as of the date/time indicated and are subject to change. Any price and availability information displayed on [relevant Amazon Site(s), as applicable] at the time of purchase will apply to the purchase of this product.)PUMA Unisex's Purecat Beach & Pool Shoes
£17.99 (as of June 2, 2023 18:55 GMT +01:00 - More infoProduct prices and availability are accurate as of the date/time indicated and are subject to change. Any price and availability information displayed on [relevant Amazon Site(s), as applicable] at the time of purchase will apply to the purchase of this product.)PUMA Unisex Adults' Smash V2 L Low-Top Sneakers
£25.69 (as of June 2, 2023 18:55 GMT +01:00 - More infoProduct prices and availability are accurate as of the date/time indicated and are subject to change. Any price and availability information displayed on [relevant Amazon Site(s), as applicable] at the time of purchase will apply to the purchase of this product.)Superga Unisex's Cotu Classic Trainers Low-Top
£41.89 (as of June 2, 2023 18:27 GMT +01:00 - More infoProduct prices and availability are accurate as of the date/time indicated and are subject to change. Any price and availability information displayed on [relevant Amazon Site(s), as applicable] at the time of purchase will apply to the purchase of this product.)Aqua Shield Womens Beach Pool Sea Swimming Toggle Slip On Aqua Water Socks Surf Shoes
£14.99 (as of June 2, 2023 18:27 GMT +01:00 - More infoProduct prices and availability are accurate as of the date/time indicated and are subject to change. Any price and availability information displayed on [relevant Amazon Site(s), as applicable] at the time of purchase will apply to the purchase of this product.)Crocs Women's Swiftwater Sandal W
(as of June 2, 2023 18:27 GMT +01:00 - More infoProduct prices and availability are accurate as of the date/time indicated and are subject to change. Any price and availability information displayed on [relevant Amazon Site(s), as applicable] at the time of purchase will apply to the purchase of this product.)Rocket Dog Women's Chow Sneaker
£19.99 (as of June 2, 2023 18:27 GMT +01:00 - More infoProduct prices and availability are accurate as of the date/time indicated and are subject to change. Any price and availability information displayed on [relevant Amazon Site(s), as applicable] at the time of purchase will apply to the purchase of this product.)Levi's Women's Malibu Beach S Sneakers
£27.19 (as of June 2, 2023 18:27 GMT +01:00 - More infoProduct prices and availability are accurate as of the date/time indicated and are subject to change. Any price and availability information displayed on [relevant Amazon Site(s), as applicable] at the time of purchase will apply to the purchase of this product.)Amazon Devices and Accessories,
Amazon Devices. Find some of the best Amazon Devices and Accessories, electrical devices and gadget available on Amazon. Great products, great prices, delivered to your door.