google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pleidiau’n targedu ffermwyr wedi’r protestiadau

Dywedodd Plaid Cymru mai eu blaenoriaeth oedd “gwarchod dyfodol ffermydd teuluol”.

Maen nhw’n cynnig rhoi’r hawl i Gymru wahardd unrhyw gytundebau masnach arfaethedig yn y dyfodol fyddai’n “tanseilio cymunedau amaethyddol Cymreig”.

Ac o ran cyllid, maen nhw’n dweud bod “rhaid dychwelyd i lefelau fel yr oedden nhw cyn Brexit mewn termau real”.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud eu bod yn “falch o sefyll gyda’r miloedd (o ffermwyr) a fynychodd brotestiadau ar draws Cymru”.

Fe fydden nhw’n “cynyddu buddsoddiad ar draws y DU mewn ffermio gan £1 biliwn yn ystod y pum mlynedd nesa… gan sicrhau bod cyllid sydd wedi’i anfon at Lywodraeth Cymru ar gyfer ffermwyr Cymreig yn cynyddu gyda chwyddiant,” meddai llefarydd, wnaeth ychwanegu bod y blaid am weld Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn cael ei ollwng a’i ail-ddylunio.

Dywedodd Llafur Cymru bod dyfodol llwyddiannus i amaeth yng Nghymru yn golygu “cynhyrchu bwyd cynaliadwy, edrych ar ôl ein hamgylchedd a sicrhau ein cymunedau gwledig, tra’n goresgyn yr argyfyngau hinsawdd a natur”.

Maen nhw’n ychwanegu fod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn “allweddol i gyflawni hyn” a’u bod yn “parhau i weithio mewn partneriaeth gyda’r gymuned amaethyddol, grwpiau amgylcheddol ac eraill i greu cynllun sy’n gweithio ar gyfer y tymor hir”.




Source link

Advertisements
Views: 0

See also  Ateb y Galw: Llio Maddocks

Check Also

Leicester City: Jordan Ayew and Ricardo Pereira among 10 players leaving

Forward Jordan Ayew, captain Ricardo Pereira and striker Patson Daka are among 10 players released …

Beach hut costing as much as a house goes on market

That’s the same price as a three-bed semi further along the same coastline. BBC News …

Dynes a gafodd ei cham-drin yn blentyn yn dweud na all iawndal roi cyfiawnder

Mae dynes o Gaerffili a gafodd ei cham-drin yn rhywiol pan yn blentyn, wedi dweud …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Making digital tools accessible for everyone.