Plaid Cymru yn ‘paratoi’r ffordd at annibyniaeth’


Bu miloedd mewn gorymdeithiau annibyniaeth yn 2019

image copyrightGetty Images

image captionBu miloedd mewn gorymdeithiau annibyniaeth yn 2019

Mae’r grŵp sydd wedi cael ei benodi gan Blaid Cymru i baratoi’r ffordd ar gyfer annibyniaeth yn dweud y dylid cynnal dau refferendwm ar le Cymru yn y Deyrnas Unedig yn y dyfodol.

Y cyn-AS Elfyn Llwyd sy’n arwain y Comisiwn Annibyniaeth a dywed bod yn rhaid cael refferendwm “aml-ddewis” er mwyn canfod y farn ar draws Cymru.

Fe ddylai’r bleidlais honno gael ei defnyddio wedyn i berswadio llywodraeth San Steffan i gynnal refferendwm ar y dewis sy’n cael ei ffafrio, meddai.

Dywed Mr Llwyd bod yn rhaid i “Gymru ddeall yn iawn beth yw’r opsiynau”.

image captionMae Cymru, medd yr adroddiad, ar y ffordd i fod yn genedl annibynnol

Cafodd y Comisiwn Annibyniaeth ei sefydlu gan Blaid Cymru er mwyn canfod sut y dylai’r blaid baratoi at gynnal refferendwm ar annibyniaeth, petai’n dod i rym yng Nghymru.

Dywed bod Cymru eisoes wedi dechrau ar y daith tuag at annibyniaeth gan bod ganddi Senedd a phwerau deddfu ei hun.

Ychwanegodd cadeirydd y Comisiwn, Elfyn Llwyd: “Daeth llawer o’n pobl yn ymwybodol am y tro cyntaf o’r manteision cadarnhaol sy’n deillio i Gymru o feddu ar ei sefydliadau democrataidd ei hun, y Senedd a Llywodraeth Cymru.

image captionElfyn Llwyd yw cadeirydd y Comisiwn Annibyniaeth

Ychwanegodd: “Cred y Comisiwn mai annibyniaeth, fydd yn rhoi llawer mwy o reolaeth dros ein materion ein hunain, yw’r statws y dylai Cymru anelu ato.

“Mae pobl Cymru yn ganolog i’r broses annibyniaeth ac y mae angen iddynt ddeall yn glir pa ddewisiadau sydd ar gael o ran eu dyfodol gwleidyddol.

“Cyn refferendwm ar annibyniaeth, dylid sefydlu Comisiwn Cenedlaethol a Chynulliadau Dinasyddion cysylltiedig er mwyn sicrhau fod pawb yn ymwybodol, yn cymryd rhan ac yn ymwneud â’r broses.”

Dadl yr adroddiad hefyd yw mai dim ond trwy annibyniaeth y gellir gwella economi Cymru yn llawn.

Dywed ymhellach “fod Cymru wedi methu â gwneud cynnydd economaidd nid oherwydd bod y wlad yn rhy fach nac yn rhy dlawd, ond am ei bod wedi ei chaethiwo mewn economi sydd wedi’i ogwyddo’n llethol tuag at fuddiannau dinas Llundain”.

“Mae gwersi i’w dysgu o Iwerddon, oedd gynt yn un o rannau mwyaf ymylol a thlotaf y DU.

“Y mae bellach yn genedl hyderus, sicr ac annibynnol, un o rannau cyfoethocaf yr Ynysoedd hyn, gyda sedd yn y Cenhedloedd Unedig,” ychwanegodd Mr Llwyd.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price: “Mae rhywbeth yn digwydd yng Nghymru. Mae’r gefnogaeth i annibyniaeth ar ei uchaf erioed. Mae ein cenedl ar gerdded a phobl yn deffro i’r syniad fod annibyniaeth yn bosib.”

Arian

Dyw’r adroddiad ddim yn nodi pa arian y dylai Cymru annibynnol ei ddefnyddio.

Nodir er “bod gwledydd cyn lleied â Chymru, llai hyd yn oed, wedi dangos eu gallu i reoli’u cyrrensi eu hunain, byddai cyrrensi Cymreig yn gosod costau trafod ar fusnesau a wnâi gweithredu yng Nghymru yn llai cystadleuol na thros y ffin yn Lloegr”.

“Fodd bynnag mae manteision o gael cyrrensi ar wahân, nid lleiaf y gallu i adbrisio fel y byddai’n addas i adlewyrchu newidiadau mewn cystadleurwydd, ond pe bai angen osgoi difrod ar y pryd i gwmnïau Cymreig byddai rhaid rhoi’r gorau i’r buddion hirdymor yma.”

Pan ofynnwyd i etholwyr yn Yr Alban yn 2014 a ddylai’r wlad fod yn annibynnol, fe bleidleisiodd 55% yn erbyn.

Ond mae llywodraeth SNP yn Yr Alban wedi bod yn ymgyrchu dros gael ail bleidlais ers i’r DU benderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Straeon perthnasol



BBC News