‘Pandemig o alaru’ heb gyfle i fynd i angladd


, ‘Pandemig o alaru’ heb gyfle i fynd i angladdImage copyright
Getty Images

Gallai methu cyfle i fynd i angladdau arwain at broblemau iechyd meddwl hir-dymor – dyna rybudd arweinwyr ysbrydol ac ymgymerwyr angladdau.

Er bod hawl i fwy o bobl fynychu angladdau nawr nag oedd ar ddechrau’r cyfnod clo, mae nifer y galarwyr mewn angladdau wedi’u cyfyngu i nifer bychan o hyd, ac yn amrywio o ardal i ardal.

Mae un o brif ddarparwyr angladdau Prydain yn amcangyfrif bod 9.7 miliwn o alarwyr wedi methu’r cyfle i ddweud ffarwel olaf wrth eu hanwyliaid ers dechrau’r cyfnod clo ym mis Mawrth.

Mae gwasanaeth Funeralcare y Co-op wedi cynnal arolwg ar-lein o effaith y cyfnod clo ar alarwyr ac yn dweud bod 59% o alarwyr y DU yn dweud nad ydyn nhw wedi gallu galaru fel y bydden nhw wedi dymuno gwneud yn ystod yr argyfwng.

Mae 61% o’r oedolion sy’n galaru yn dweud bod dim byd wedi’u helpu nhw i alaru.

Yn ôl yr arolwg roedd 47% o’r bobl gollodd anwyliaid yn ystod wythnosau cyntaf y cyfnod y clo wedi methu’r cyfle i fynd i angladd i ffarwelio â pherthynas neu gyfaill am y tro olaf.

Image copyright
Iwan Williams

Image caption

Aeth Iwan â’i dad Keith i wylio gêm ei hoff dîm, Everton, cyn iddo farw

Yn 35 oed ac yn dad i dri o blant bach, fe gollodd Iwan Williams o Lanfairpwll ei dad Keith, 63, ym mis Mawrth wedi i’r cyfnod clo ddod i rym.

Mae’n dweud ei fod yn teimlo o hyd nad yw’n gallu galaru amdano yn iawn.

“Mae o i gyd dal yn brifo, mae o i gyd dal fel gath o’i rusho,” meddai. “Gafon ni ond 30 munud yn y crematorium achos roeddan nhw angen llnau’r lle ar gyfer y person nesa. Gafon ni ddim canu emynau, oddan ni ddim yn cael eistedd at ein gilydd, siarad efo’n gilydd.

“Odd o’n bechod gweld fy nhad yn mynd yn y crematorium ym Mangor. O’dd o fatha bo’ ni ddim wedi dweud ta-ra yn iawn.”

  • Cysur, galar ac urddas: Cynnal angladd mewn pandemig

‘Profiad swreal’

Roedd Iwan a’i frawd Osian wedi colli eu mam ddwy flynedd ynghynt, ac wedi gweld 200 o alarwyr yn eu hangladd hi.

Ond yn y diwedd, dim ond wyth oedd yn cael bod yn angladd eu tad, a doedd dim hawl cael tê cynhebrwng wedyn.

“Dwi’n cofio sefyll i fyny a ‘neud teyrnged i Mam o flaen cannoedd o bobl a ddaeth o allan yn iawn,” medd Iwan, “Ond o’dd trio ‘neud o i nhad o flaen wyth o bobl, o’n i methu cael y geiriau allan. Odd o’n surreal iawn.”

Image caption

Linda Hughes, Nia Humphreys a’r Parchedig Sara Roberts yn cyd-drafod cyn i’r digwyddiad cyntaf gael ei gynnal yn y ‘Caffi Colled’ yn Nefyn, llynedd

Yn ôl y Parchedig Sara Roberts, curad i’r Eglwys yng Nghymru ym Mro Madryn, mae wedi bod yn gyfnod anodd tu hwnt i deuluoedd.

Ym mis Ebrill 2019, roedd hi’n rhan o sefydlu ‘Caffi Galar’ yn Nefyn i helpu pobl ddelio â’u colled. Mae hi’n dweud bod heriau gwahanol iawn nawr yn wynebu pobl sy’n galaru.

“Fel arfer ‘dach chi’n cael bod efo pobl pan maen nhw’n sâl ac yn pasio,” meddai, “a wedyn ‘dach chi’n gallu trefnu angladd efo teulu a ffrindiau a chael y drefn dach chi’n disgwyl cael a chael yr angladd ei hun sydd yn rhoi clo ar hynny.

“Heb hynny i gyd dwi’n meddwl ei fod o’n anoddach i bobl fynd drwy’r broses o alaru ac mae’n creu problemau.”

Pryder am iechyd meddwl galarwyr

Fel un sydd wedi helpu teuluoedd lu drwy’r broses o alaru, mae Parch. Roberts yn poeni am yr effeithiau hir-dymor.

“Mae’n anodd iawn rhagweld, ond baswn i’n amau bod o’n mynd i effeithio ar iechyd meddwl pobl,” meddai.

“Falla bydd y galaru yn mynd mlaen yn hirach achos does ‘na ddim modd rhoi diwadd arni, achos mae’r angladd ei hun yn rhoi diwedd ar y cyfnod cyntaf o alaru, er mwyn symud ymlaen i’r ail gyfnod fel petai.

“Heb gael hynna mae’n cael effaith ysbrydol a seicolegol, dwi’n meddwl.”

Mae’r Co-op yn amcangyfrif bod 133,000 o deuluoedd yn galaru marwolaeth perthynas ers dechrau’r cyfnod clo.

Image copyright
Iwan Williams

Image caption

Iwan Williams ar ymweliad â’i dad pan oedd yn sâl

Mae Iwan Williams nawr yn gorfod ymgymryd â’r ochr ymarferol o ddelio â marwolaeth perthynas, a therfynu cytundebau ffôn, nwy, dŵr a phensiwn ac ati, heb sôn am werthu tŷ ei dad.

I geisio rhoi ‘clo’ ar y broses alaru, mae Iwan a’i frawd Osian wedi penderfynu cynnal digwyddiad teuluol cyn gynted ag y bo hynny’n ddiogel.

Roedd y teulu wedi plannu coeden er cof am eu mam wedi iddi hi farw yn 52 oed, a’u bwriad yw plannu coeden wrth ei hymyl er cof am eu tad.

“Gobeithio gawn ni ddeud ta-ra iawn wrtho fo yr adeg hynny,” meddai.



BBC News