google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Nain a’i gwersi piano gan Gustav Holst’: Cofio Maimie Noel Jones

Advertisements

Fe gafodd Maimie Noel Jones ei magu mewn teulu cerddorol yn Dinorwic House, Y Felinheli. Roedd yn amlwg yn gynnar yn ei bywyd bod ganddi gyfle i wneud gyrfa fel pianydd.

“Pan oedd hi’n dod i neud chores o gwmpas y tŷ doedd Nain ddim yn cael golchi llestri na dystio – roedd hi’n cael ei gorfodi i fynd i ymarfer y piano,” meddai Gary. “Doedd hi ddim yn cael golchi llestri rhag ofn iddi wneud niwed i’w dwylo felly roedden nhw’n gwybod o oed cynnar iawn bod ganddi dalent ar y piano.”

Aeth i’r brifysgol ym Mangor i astudio cerddoriaeth ar ddechrau’r 1930au, y ferch gyntaf i wneud hynny yn ôl stori’r teulu, er nad ydyn nhw wedi gallu profi hynny eto. Un peth sy’n sicr ydi ei bod hi’n astudio mewn cyfnod pan nad oedd llawer o ferched yn gwneud hynny – ac fe gafodd wersi gan gyfansoddwr byd-enwog The Planets.

“Gafodd hi wersi piano gan Gustav Holst,” meddai Gary wrth BBC Cymru Fyw. “Roedd o’n ryw fath o travelling professor, rhywun oedd yn dod i roi gwersi piano i rai oedd efo dawn gerddorol, ac roedd o’n dod i Fangor i roi gwersi i Nain.

“Mam wnaeth sôn wrtha i – mae ‘na lot o bethau ‘da ni wedi clywed ers i Nain farw. Doedd hi ddim yn un i frolio.”


BBC News

See also  Man and dog found dead after house fire in Glenrothes

Check Also

Ali Carter wins first English Open

England’s Ali Carter won the English Open in style with a 9-6 victory over Mark …

Cardiff man to be released from prison, 21 years after phone robbery

Introduced in 2005, IPPs were established to keep serious offenders, who were perceived to be …

First ministers of Wales, Scotland and Northern Ireland to meet in Cardiff

The first ministers of Wales, Scotland and Northern Ireland will meet in Cardiff on Monday …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime