‘Modd cael gyrfa dda a theithio’r byd tra’n rheoli anableddau’ – artist

Mae artist o Gymru wedi dweud bod ei gwaith fel therapi iddi, sydd wedi ei galluogi i gael gyrfa a “gwneud cyfraniad pwysig” tra’n rheoli ei hanableddau.

Fe gafodd Abi Trotman, 37 o’r Barri, ddiagnosis o encephalomyelitis myalgic (ME) yn 11 oed, ac roedd swydd “arferol naw tan bump” yn cael “effaith wael iawn arna i’n feddyliol a’n gorfforol”.

Wrth i’w gwaith celf ddenu mwy o sylw fe benderfynodd dilyn ei breuddwyd a gwneud ei mam-gu yn “falch iawn” – daeth yn artist pethau bychain (miniaturist) llawn-amser.

Yn syml, celf pethau bychain yw ailgreu eitemau ond yn fychain iawn.

Fel rheol answyddogol, mae angen i’r celf ffitio ar gledr eich llaw, ond y manylder sy’n ennyn diddordeb pobl.

Bellach mae Abi yn teithio’r byd yn gwerthu ei gwaith, ac mae hefyd wedi cymryd rhan yn rhaglen deledu newydd y BBC, The Marvellous Miniature Workshop.

Dywedodd bod ei gwaith wedi ei helpu gymaint gan ei bod “yn llythrennol yn rhoi’r cyfle i chi werthfawrogi’r pethau bychain”.


BBC News

Views: 0

See also  Enwebiad BAFTA ar gyfer ffilm fer gyntaf animeiddiwr o Bowys

Check Also

Tua 2,500 o ferched yn rhedeg marathon elusennol 31 milltir ym Mhen Llŷn

Mae tua 2,500 o ferched wedi bod yn rhedeg yn y gwynt a’r glaw fel …

Teens injured after alleged air weapon assault involving group of men

Three teenagers have been been injured following an alleged assault by three men. BBC News …

Tri o blant wedi’u hanafu yn dilyn digwyddiad yng Nghasnewydd

Mae tri o blant yn eu harddegau wedi cael eu hanafau yn dilyn digwyddiad yng …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Powered by [online pain killers pharma]. Nta jee main 2026. Business plan on wood working executive summary in nigeria.