‘Methiant gofal meddygol sylfaenol’ cyn marwolaeth babi

2c8580d0 35a8 11f0 96c3 cf669419a2b0.jpg

Fe glywodd y cwest bod mesuriadau twf y babi wedi sefydlogi pan gyrhaeddodd ddiwedd y cyfnod beichiogrwydd disgwyliedig.

Mae hynny’n awgrymu bod y babi wedi stopio tyfu, cyflwr sy’n cael ei adnabod fel cyfyngiad ar dyfiant ffoetws.

Dywedodd y fydwraig gymunedol Kiera Fitzgerald, a oedd yn gofalu am Mrs Stockwell-Parry gartref, ei bod wedi methu â chydnabod yr arwyddion.

“Mae’n wir ddrwg gen i, fe wnes i gamfarnu hynny,” meddai wrth y cwest.

Dywedodd y dylai’r fam fod wedi cael ei chyfeirio am sgan ar y babi.

Yn lle hynny, fe wnaed trefniadau iddi fynd i’r ysbyty i gael triniaeth fyddai’n ysgogi genedigaeth (induction).

Roedd y driniaeth am gael ei chynnal mewn uned dan arweiniad bydwragedd yn hytrach na ward dan arweiniad meddygon ar gyfer beichiogrwydd risg uchel.

Clywodd y cwest na sylweddolodd o leiaf dwy fydwraig arall ar broblemau pan gafodd Mrs Stockwell-Parry ei derbyn i’r uned famolaeth.

Dywedodd y fydwraig Catrin Roberts pe bai wedi sylwi ar y siartiau y byddai wedi delio â’r sefyllfa’n wahanol.


BBC News

Views: 0

Check Also

Y Felinheli pub landlord finds hidden tunnel in basement

The railway tunnel connected Dinorwic Quarry, once one of the world’s biggest, to the harbour. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Absa bank ghana limited. The immediate release tablet is used to help you fall asleep when you first go to bed. About us – kiwi news 24/7.