Mae heddwas o Ynys Môn wedi gwadu ymosod yn ddifrifol ar fachgen 17 oed tu allan i glwb nos ym Mangor.
Mae PC Ellis Thomas o ardal Gaerwen yn wynebu cyhuddiad o glwyfo maleisus ac anghyfreithlon yn erbyn Harley Murphy, sydd bellach wedi troi’n 18 oed, tu allan i glwb Cube ar 29 Ionawr 2023.
Yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Mercher fe wnaeth PC Thomas wadu’r cyhuddiad.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth, ac mae disgwyl iddo ymddangos nesaf yn Llys y Goron Caernarfon ar 20 Mai.
Daw’r cyhuddiad yn dilyn ymchwiliad pum mis gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) i’r defnydd o rym gan PC Thomas.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y swyddog “yn parhau ar gyfrifoldebau cyfyngedig”.
Source link
Best Electronic Deals.
Discover the Best Electronic Deals on Amazon Today. Grab Hot Discounts on Top Tech! Don't Miss Out! 🔥 Save Big Now!