‘Ges i fy nyrnu yn fy wyneb am yrru 20mya’

Dywedodd Mr Lavis ei fod newydd adael ei gartref ym Mrynmenyn ac yn gyrru i’r ysbyty am sgan pelydr-X o’i galon tua 08:30 pan ddechreuodd fan yrru’n agos y tu ôl iddo.

“Roedd yn fflachio ei oleuadau ac yn canu ei gorn, oherwydd ‘mod i’n gwneud 20mya,” meddai.

Dywedodd y cyn-beiriannydd awyrennau, sydd bellach wedi ymddeol, bod y fan yn dal y tu ôl iddo pan stopiodd mewn cyffordd ger tafarn y Fox and Hounds yn y pentref.

Ar yr adeg yma daeth y gyrrwr, Shaw, allan o’i gerbyd.

“Mae’n dod at fy nrws, yn agor fy nrws, ac ar ôl llawer o weiddi a rhegi, yn fy nyrnu,” meddai Mr Lavis.

“Un dyrnod yn fy wyneb, ac yna trodd o gwmpas ac aeth yn ôl i’w fan.

“Roedd gen i waed yn llifo i lawr fy wyneb ac fe adawodd.

“Doedd dim edifeirwch, dim gweld sut oeddwn i na dim byd, ac yna es i ymlaen i’r ysbyty.”


BBC News

Views: 1

See also  Beth allwch chi ei fforio yn yr hydref?

Check Also

Zan Vipotnik: Swansea City would only sell striker for ‘proper money’

His good form has seen Vipotnik nominated for the English Football League Championship Player of …

Josh Adams: Wales wing signs new Cardiff contract

Adams has scored six tries in his eight domestic appearances this season for Cardiff – …

Dragons prop Chris Coleman signs new deal with Welsh region

Dragons prop Chris Coleman has signed a new contract to extend his stay with the …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
वहीं, घाट पर मौजूद अन्य श्रद्धालुओं ने भी एनडीआरएफ के जवानों को “रियल हीरो” बताते हुए उनके सेवा भाव को सलाम किया।.