google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gareth Bale mewn grŵp sydd eisiau cymryd rheolaeth dros Plymouth Argyle

Advertisements

Mae cyn-chwaraewr Cymru a Real Madrid, Gareth Bale, yn rhan o gonsortiwm o’r UDA sy’n ceisio cymryd rheolaeth o glwb Plymouth Argyle yn Lloegr.

Deallir bod trafodaethau’r clwb gyda’r cwmni ecwiti preifat yn rhai cychwynnol.

Dywedodd perchennog Plymouth Argyle, Simon Hallett, fis diwethaf bod cytundeb blaenorol i werthu cyfran yn y clwb wedi methu.

Byddai Bale yn dilyn esiampl ei gyn-gyd-chwaraewr Real Madrid, Luka Modric, sydd wedi dod yn rhan o’r grŵp a gafodd reolaeth dros Abertawe.

Cwympodd Argyle o’r Bencampwriaeth y tymor diwethaf ar ôl perfformiad gwael yn y tymor, ac felly yn Adran Un fydd y clwb yn chwarae y tymor nesaf.

Nid yw’n amlwg pa rôl, os o gwbl, fyddai gan Bale yn Argyle pe bai’r cynllun i gymryd yr awennau’n llwyddiannus.


BBC News

Views: 0

See also  Wrexham star James McClean clashes with Cardiff fan in car park

Check Also

Ann Davies AS: O atal dweud i siarad ar lawr Tŷ’r Cyffredin

Mae’r gwleidydd Ann Davies wedi sôn sut wnaeth cerddoriaeth a Chlwb Ffermwyr Ifanc ei helpu …

Michael Ball: ‘Y profiad gorau dwi erioed wedi ei gael’

Bydd y canwr, sy’ wedi serennu mewn sawl sioe gerdd gan gynnwys Les Misérables dros …

Cofio’r cwis Cymraeg? – BBC Cymru Fyw

Cwis o’r 1980au gyda Hywel Gwynfryn; cwestiynau ar ffurf penawdau papur newydd, gyda chliwiau oedd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Nordicnodes | professional saas tools for everyone.