Galw am fwy o arian i ysgolion ardaloedd tlawd


Bethan Lewis
Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

Prydau ysgol

image copyrightReuters

Dylai ysgolion yn yr ardaloedd tlotaf gael blaenoriaeth wrth bennu cyllidebau, yn ôl adroddiad ar wariant addysg.

Er bod arian ychwanegol yn cael ei rhoi ar gyfer disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim, dydy gwariant yr ysgolion mwyaf difreintiedig ddim wedi cynyddu cymaint â’r disgwyl.

Mae’r adolygiad yn galw hefyd am fwy o eglurder a chysondeb yn y ffordd mae arian yn cael ei ddyrannu i ysgolion mewn gwahanol rannau o Gymru.

Dywedodd undebau addysg bod angen ailwampio’r system ariannu ysgolion ar frys.

‘Manteision sylweddol’ gwariant uwch

Cafodd dadansoddiad yr economegydd addysg, Luke Sibieta ei gwblhau yn bennaf cyn y pandemig, ond mae’n cydnabod “goblygiadau sylweddol” Covid-19 ar adnoddau ysgolion.

Dywedodd fod tystiolaeth gref bod gwariant uwch mewn ysgolion yn arwain at “fanteision sylweddol”, yn enwedig i ddisgyblion o gefndiroedd tlotach.

Yn 2018-19 cafodd £2.6 biliwn, neu tua £6,000 y disgybl ei wario ar ysgolion – 6% yn is ym mhrisiau heddiw na’r ffigwr ar gyfer 2009-10.

Mae gwariant fesul disgybl tua £650 yn uwch yn yr 20% ysgol gynradd mwyaf difreintiedig, o’i gymharu â’r lleiaf difreintiedig, a tua £700 yn uwch mewn ysgolion uwchradd.

Ond dywed yr adroddiad bod yna bryder ynglŷn â faint o arian mae ysgolion gyda lefelau amddifadedd uwch na’r cyfartaledd, ond nid y mwyaf difreintiedig, yn eu cael.

‘Cyllid ddim wedi codi fel y dylai’

Trwy’r Grant Datblygu Disgyblion mae ysgolion yn derbyn £1,150 y flwyddyn ar gyfer pob disgybl sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim gyda chyllid ychwanegol hefyd i blant mewn gofal ac wedi’u mabwysiadu ac i blant dan bump oed.

Ond, er gwaethaf cyflwyno’r grant yn 2012, daw’r adroddiad i’r casgliad nad yw cyllid ychwanegol i ysgolion cynradd mwy difreintiedig wedi tyfu dros y degawd diwethaf, a bod cyllid ysgolion uwchradd mwy difreintiedig wedi tyfu “ond nid cymaint ag y byddai rhywun yn ei ragweld”.

Mae’r cyllid ar gyfer ysgolion difreintiedig yng Nghymru hefyd yn is nag yn Lloegr, meddai’r adroddiad gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl yr adolygiad, mae yna wahaniaethau mawr yn lefel yr arian i bob disgybl mewn ysgolion tebyg ac, mae’n galw am fformiwlâu ariannu ysgolion “mwy cyson a thryloyw” ar draws awdurdodau lleol.

Mae gwariant y disgybl mewn ysgolion cynradd ac uwchradd tua £300 yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol yng Ngheredigion, Conwy, Caerffili a Blaenau Gwent, a thua £200 neu fwy yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol yng Nghasnewydd, Bro Morgannwg a Sir y Fflint.

Cyflogau athrawon yn allweddol

Y prif sbardun i gynnydd costau ysgolion dros y blynyddoedd nesaf fydd lefel cyflog athrawon, yn ôl yr adroddiad, ac yn enwedig i ba raddau mae Cymru’n dilyn yr ymrwymiad yn Lloegr i gynyddu cyflogau cychwynnol athrawon i £30,000 erbyn 2022.

Mae’n amcangyfrif y byddai’n cynyddu costau ysgolion tua 8% y disgybl erbyn 2022-23.

Dywedodd undeb athrawon UCAC y dylai cynghorau a Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r argymhellion ar frys.

“Ar hyn o bryd mae’r system wedi’i nodweddu gan anghysondeb difrifol, diffyg tryloywder, a diffyg cynllunio strategol,” meddai Dilwyn Roberts-Young, ysgrifennydd cyffredinol UCAC.

“Yn ogystal, mae cyllidebau ysgolion wedi bod yn gostwng dros sawl blwyddyn.

“Mae’n dda bod hynny wedi’i nodi’n ddu a gwyn yn yr adroddiad – yn ogystal â’r ffaith bod lefelau ariannu yn gwneud gwahaniaeth i ddeilliannau, yn arbennig i ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig.”

image captionDywedodd Kirsty Williams bod angen “adolygiad gofalus o’r system ariannu ysgolion”

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams fod y pandemig wedi rhoi “straen digynsail” ar gyllidebau sector cyhoeddus.

“Rwy’n gwbl ymwybodol o’r pwysau gwirioneddol y mae awdurdodau lleol ac ysgolion bellach yn eu hwynebu o ganlyniad i’r pandemig,” meddai.

“Mae heriau o’r fath yn ei gwneud yn bwysicach fyth bod adolygiad gofalus o’r system ariannu ysgolion wedi’i gynnal i sicrhau ei fod mewn sefyllfa dda i gynorthwyo llunwyr polisi wrth i ni symud ymlaen.”

Pynciau Cysylltiedig

  • Addysg

  • Tlodi



BBC News