Galw am droi hen reilffordd pyllau glo yn llwybr seiclo


Rheilffordd

Image caption

Mae’r rheilffordd wedi gweld dyddiau gwell am iddi fod yn segur ers yr 80au

Mae yna alwadau yng Nghwm Gwendraeth i droi hen reilffordd oedd yn gwasanaethu pyllau glo yr ardal yn llwybr seiclo ar gyfer y gymuned leol.

Fe grëwyd rheilffordd Porth Tywyn a Chwm Gwendraeth yn y 19eg ganrif, ac ar un adeg roedd yn ymestyn am bellter o 21 milltir.

Fe gaeodd y gwasanaeth i deithwyr ym 1953, a’r gwasanaethau i nwyddau yno tua diwedd y 1980au wrth i’r diwydiant glo edwino.

Roedd y lein yn ymestyn o ddociau Llanelli yr holl ffordd i fyny at lofa Cwm Mawr.

Mae’r rheilffordd wedi bod yn segur ers hynny, gyda drysni a choed yn tyfu drosti mewn mannau.

Mae dros 1,000 o bobl wedi arwyddo deiseb ar-lein yn galw ar Gyngor Sir Gâr, Cymdeithas Trenau Cwm Gwendraeth a Network Rail i gynnal astudiaeth ddichonoldeb i graffu ar y syniad o droi’r hen linell yn llwybr beicio.

Image caption

“Dyw pentref Pontyberem ddim yn cael ei gysylltu gyda gweddill y cwm,” medd y Cynghorydd Liam Bowen

Dywedodd sefydlydd y ddeiseb, cynghorydd sir ardal Pontyberem, Liam Bowen: “Fel cymuned, ni wedi bod yn galw am hyn am sbel nawr, i gael buddsoddiad yn yr ardal, i gael llwybr seiclo.

“Yn anffodus, dyw pentref Pontyberem ddim yn cael ei gysylltu gyda gweddill y cwm.

“Ni moyn bod yn sir sydd yn hwb i seiclo yng Nghymru, a dyma’n cyfle i fod yn rhan o hynny fel cwm.

“Mae’r arian yna, gyda Teithio Llesol. Fe es i at ein haelod o’r senedd, Lee Waters, sydd wedi datgan ei gefnogaeth ar gyfer buddsoddiad yn yr ardal ac at Gyngor Sir Gâr.

“Y cam cyntaf yw cael astudiaeth ddichonoldeb.”

‘Gwastraff’

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin eisoes wedi buddsoddi mewn cynlluniau i adnewyddu felodrom Caerfyrddin, ac wedi denu ras y Tour of Britain i’r sir.

Un sy’n cefnogi’r ddeiseb ydy Neil Maliphant, sydd yn seiclo’n gyson yn yr ardal gyda chlybiau a’i deulu.

“Ar hyn o bryd mae’r plant yn fach felly mae’n oce iddyn nhw fynd lawr i’r parc, ond ‘da ni ddim yn gallu mynd o’r filltir sgwâr yn y pentref,” meddai.

Image caption

Dywedodd Neil Maliphant nad oes llwybr seiclo i fynd o’i filltir sgwâr

Mae’n credu bod addasu’r lein yn fater o flaenoriaeth.

“Mae digon o le ‘ma. Ers blynyddoedd, dwi wedi gweld e fel gwastraff gan fod yr hen reilffordd yn fflat.

“Mae hyn yn teimlo fel un o’r links sydd ar goll i gysylltu popeth i fyny.”

Ymgynghoriad ar agor

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd ar Gyngor Sir Gaerfyrddin: “Ar hyn o bryd rydym yn canolbwyntio ar ein prosiect cyffrous Llwybr Dyffryn Tywi, ond rydym yn awyddus i weithio gyda chymunedau i edrych ar gynigion mewn ardaloedd eraill.

“Yn wir, mae llwybr arfaethedig y Gwendraeth ar ein Map Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol y gall unrhyw un ei weld a gwneud sylw arno fel rhan o ymgynghoriad rydym yn ei gynnal ar hyn o bryd.

“Ar ôl edrych ar y prosiect hwn yn y gorffennol, un o’r prif ystyriaethau yw sicrhau ei fod yn cyd-fynd â dyheadau’r gymuned ehangach ar gyfer yr hen reilffordd.

“Rydym wedi cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am gyllid Teithio Llesol, ac yn amodol ar y canlyniad, rydym yn bwriadu ariannu astudiaethau dichonoldeb prosiect pellach.”



BBC News

WP Twitter Auto Publish Powered By : XYZScripts.com