Galw am beidio cyfyngu ar deithio yn siroedd y gogledd


Castell Conwy

image copyrightRichard Hoare/Geograph

image captionMae arweinydd Cyngor Conwy yn “siomedig a rhwystredig” am ddiffyg cefnogaeth i fusnesau sy’n ddibynnol ar dwristiaeth

Mae grŵp o wleidyddion Ceidwadol wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried gosod cyfyngiadau ar deithio fel rhan o’r cyfnod clo lleol ar gyfer pedair sir yn y gogledd.

Bydd

cyfyngiadau newydd yn dod i rym yn siroedd Conwy, Dinbych, y Fflint a Wrecsam am 18:00 ddydd Iau.

Mae’n golygu na fydd hawl gan bobl sy’n byw yn yr ardaloedd hynny i adael y sir heb “esgus rhesymol”, fel gwaith neu addysg.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd ddydd Mawrth bod “patrwm tebyg o drosglwyddo yn Wrecsam, Sir Ddinbych, Conwy a Sir Y Fflint ac rydym wedi ei weld yn rhannau o’r de”.

Cyfyngiadau ‘anghymesur’

Mewn datganiad ar y cyd mae’r holl Aelodau Seneddol ac Aelodau Senedd Cymru Ceidwadol sy’n cynrychioli gogledd Cymru yn dweud bod y cyfyngiadau newydd wedi bod yn “syndod” iddyn nhw.

Mae’r datganiad wedi’i arwyddo gan yr Aelodau Seneddol Sarah Atherton, Simon Baynes, Virginia Crosbie, James Davies, David Jones, Robin Millar a Rob Roberts, a’r Aelodau o Senedd Cymru Janet Finch-Saunders, Mark Isherwood a Darren Millar.

Dywedodd y 10 aelod etholedig eu bod yn deall bod nifer yr achosion wedi cynyddu yn y pedair sir dros y mis diwethaf, ond eu bod yn “parhau yn sylweddol is na’r ardaloedd eraill sy’n wynebu cyfyngiadau”.

Dros yr wythnos ddiwethaf mae 53.8 o achosion wedi cael eu cadarnhau ar gyfer pob 100,000 o boblogaeth yn Sir y Fflint.

46.1 ydy’r ffigwr yng Nghonwy, 43.4 yn Wrecsam a 37.6 yn Sir Ddinbych.

image copyrightPAUL ELLIS
image captionBydd y mesurau newydd yn dod i rym mewn llefydd fel Rhuthun am 18:00 ddydd Iau

Mae’r aelodau yn rhybuddio y gallai’r cyfyngiadau gael effaith andwyol ar fusnesau, yn enwedig rheiny sy’n ddibynnol ar dwristiaid.

“Bychan iawn ydy’r dystiolaeth mai teithio neu dwristiaeth sy’n gyfrifol am y cynnydd yng nghyfraddau’r haint,” meddai’r datganiad.

“O ystyried hyn, ry’n ni’n credu bod cyfyngiadau teithio Llywodraeth Cymru yn anghymesur.

“Ry’n ni’n galw’n gryf am ailystyried cwmpas y cyfyngiadau i ystyried yr effaith ddinistriol mae cyfyngiadau ar deithio yn ei gael ar les pobl leol.”

image captionFe wnaeth Vaughan Gething y cyhoeddiad i’r Senedd yn dilyn cyfarfod gydag arweinwyr cynghorau

Dywedodd Vaughan Gething yn y Senedd ddydd Mawrth: “Rydym wedi gweithio’n agos gydag arweinwyr yr awdurdodau lleol a’r heddlu yn y gogledd ac rydym i gyd yn cytuno bod angen cymryd camau buan i reoli lledaeniad y feirws.

“Mae bob amser yn anodd gwneud y penderfyniad i osod cyfyngiadau, ond rydym yn gobeithio y bydd y mesurau hyn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol – yn union fel y gwelsom yng Nghaerffili a Chasnewydd, lle mae’r trigolion wedi tynnu ynghyd ac wedi dilyn y rheolau.”

‘Siomedig a rhwystredig’

Yn y cyfamser, mae cwmnïau ar draws y gogledd yn dweud bod ganddyn nhw bryder y gallai’r cyfyngiadau lleol arwain at golli swyddi neu gau busnesau.

Bydd y rheolau newydd – sydd eisoes mewn grym ar gyfer y mwyafrif o dde Cymru – yn golygu y bydd 500,000 yn rhagor o bobl dan gyfyngiadau lleol.

Dywedodd arweinydd Cyngor Conwy, Sam Rowlands ei fod yn “siomedig a rhwystredig” nad ydy Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i ddiogelu busnesau sy’n ddibynnol ar dwristiaeth.

Mae busnesau eraill wedi cwyno bod y rheolau ar deithio i fynd ar wyliau yn wahanol yng Nghymru a Lloegr, a bod hynny wedi achosi dryswch.

image captionDywedodd John Les Thomas ei fod yn sicr y bydd mwy o dafarndai’n cau oherwydd y pandemig

Mae rhybudd hefyd y bydd nifer o dafarndai yn ei chael yn anodd goroesi o ganlyniad i’r pandemig – yn enwedig rhai bach, gwledig.

Mae perchennog Tafarn y Dderwen, yn yr Hendre ar gyrion Yr Wyddgrug, eisoes wedi penderfynu na fydd modd i’r safle ailagor ac mae’n pryderu y bydd rhagor yn gwneud yr un penderfyniad.

“‘Da ni wedi bod yma am chwarter canrif erbyn hyn, a bu’n rhaid i ni gau diwedd Mawrth,” meddai John Les Thomas.

“Pan glywson ni ein bod ni’n gallu agor ‘chydig fisoedd wedyn, ‘naethon ni edrych ar y ffigyrau ac roedd y cau wedi costio dros £12,000 i ni.

“Efo’r cyfyngiadau ar y rhifau, paratoi’r lle yn ddiogel a chael yr adnoddau oedd eu hangen, doedd o jest ddim yn mynd i weithio i ni.

“Roedd o’n benderfyniad cythreulig o anodd. Mae ‘na dafarn wedi bod yn fan hyn am bron i 300 mlynedd, ac yn anffodus fi ydy’r tafarnwr ola’.

Mwy o dafarndai mewn perygl

Ychwanegodd ei fod yn sicr bod mwy o dafarndai yn ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd o ganlyniad i effeithiau’r pandemig.

“O siarad efo rhai o’r tafarnwyr yn yr ardal – yn enwedig y rhai bach, gwledig – mae mwy yn sicr yn mynd i gau,” meddai.

Straeon perthnasol



BBC News