google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ffermwr o ardal Y Bala wedi ei ddarganfod mewn tanc slyri – cwest

Yn dilyn marwolaeth Mr Owen, dywedodd un cynghorydd lleol fod y gymuned wedi’i “syfrdanu”.

Yn ôl y Cynghorydd Alan Jones Evans, sy’n cynrychioli ward Llanuwchllyn, mi oedd Mr Owen yn “ffermwr cydwybodol a phrysur” a oedd yn “wyneb cyfarwydd ym mhob sioe amaethyddol a chymdeithas yn yr ardal i gyd”.

Dywedodd Alun Elidyr, un o gyflwynwyr rhaglen Ffermio ar S4C ac yn un o lysgenhadon Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, fod “seren lachar yn ffurfafen ffermio Penllyn wedi diffodd wrth i ni golli Islwyn Cefn Bodig”.

“Roedd ei wên barod a’i hawddgarwch wrth drafod materion amaeth digon cymhleth yn golygu fod ennyd yn ei gwmni’n werthfawr,” meddai.

Ychwanegodd Rhys Owen, pennaeth amaeth a chadwraeth Parc Cenedlaethol Eryri fod “Islwyn Owen yn ŵr rhadlon agos i’w le”.


Source link

Advertisements

See also  Quick fire questions: Rhun ap Iorwerth reveals his hidden talent

Check Also

Cwmwl o fwg yn symud dros Fachynlleth wedi tân ar stad ddiwydiannol

Mae tua 30 o ddiffoddwyr tân yn ceisio dod i’r afael â thân mawr ar …

Dyn o Fangor yn ennill £10m ar ôl syrthio 30 troedfedd o beilon

Mae dyn o Fangor wedi cael iawndal o dros £10m ar ôl cael ei barlysu …

County Championship: The numbers behind Glamorgan’s Division One survival

However, One Day Cup and T20 Blast duties over the height of the summer clearly …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime