google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dwy flynedd o oedi i ysgol Gymraeg newydd oherwydd ymlusgiaid

D94c7250 62f9 11f0 b1b9 2b94c1f6d9f3.jpg

Advertisements

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar fwrw ymlaen â chynlluniau moderneiddio ar gyfer Ysgol Gymraeg Bro Ogwr newydd yn lle’r hen un, ond mae presenoldeb ymlusgiaid ar y safle newydd wedi achosi oedi i gwblhau’r gwaith ecoleg.

“Gyda hyn mewn golwg ac yn dilyn ymgynghori â chorff llywodraethol yr ysgol, cymeradwyodd ein cabinet ddyddiad agor newydd o fis Medi 2027 yn ddiweddar.

“Disgwylir i’r ymlusgiaid gael eu hadleoli dros gyfnod yr haf a bydd modd cynnal gwaith ymchwilio pellach i’r safle ar ôl cael gwared ar y prysgwydd a’r mieri sy’n weddill.

“Mae gwaith cynllunio a dylunio pensaernïol yn parhau i ddigwydd ac edrychwn ymlaen at ddarparu diweddariadau pellach yn y misoedd nesaf.”

Yn y cyfamser, mae mwy o gynlluniau ar y gweill i ddatblygu adeiladau newydd ar gyfer ysgolion a darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.

Dywedodd Ms Neagle wrth aelodau’r Senedd fod cyngor sir Pen-y-bont ar Ogwr yn gobeithio datblygu adeilad newydd i gymryd lle ysgol cyfrwng Cymraeg bresennol Ysgol Y Ferch o’r Sgêr erbyn mis Medi 2026.

Ychwanegodd bod ysgol a darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg Porthcawl hefyd yn gobeithio bod yn barod erbyn hynny.


BBC News

Views: 0

See also  Skokholm: Seabirds 'at risk' from stuck lifeboat leaking fuel

Check Also

Cardiff Huskies celebrate 30 years of life on ice

As the sport grew in the UK in the 1990s, Cardiff Huskies saw various players …

Surgeon removes wrong part of bowel in one of 10 'never events'

It was one of 10 “never events” in the past 12 months in the NHS …

'Ystafell Athrawon' yn gyfle i rwydweithio ar faes yr Eisteddfod

Mae Ystafell Athrawon newydd wedi cael ei lansio ar Faes Eisteddfod yr Urdd eleni. BBC …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime