
Fe wnaeth dros 12,000 o bobl ymateb i ymgynghoriad ar gynllun dadleuol ar gyfer cymhorthdal newydd i ffermio.
Mewn cyfweliad ar raglen Ffermio S4C nos Lun, dywedodd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig Huw Irranca-Davies mai dyma un o’r ymatebion mwyaf erioed i unrhyw ymgynghoriad, a bod angen amser i ddadansoddi’r sylwadau.
Ddechrau’r flwyddyn bu protestiadau chwyrn ar draws Cymru yn erbyn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy – sydd i fod i ddod i rym yn 2025.
Un o’r elfennau mwyaf dadleuol yw’r angen i gael coed ar 10% o dir ffermydd.
Dywed Mr Irranca-Davies mai dyma oedd yr elfen oedd yn peri’r pryder mwyaf ymhlith yr ymatebion.
Dywedodd fod nifer o syniadau wedi dod i law gan ffermwyr a mudiadau amgylcheddol ynglyn â’r ffordd ymlaen, ac y byddai’n synnu pe na bai rhywfaint o newidiadau i’r cynllun yn sgil yr ymgynghoriad.
Source link
Auto Amazon Links: No products found.