‘Dim cyfle’ i bob person ifanc ddysgu am wleidydddiaeth

B134ff10 28a5 11ef a13a 0b8c563da930.jpg

Mewn dadl yn y Senedd, dywedodd Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru Lynne Neagle ei bod eisiau gweld holl blant a phobl ifanc Cymru yn deall ac yn arfer “eu hawliau a’u cyfrifoldebau democrataidd”.

Ond, gyda’r Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu eisoes yn “sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael addysg wleidyddol”, dywedodd “nid ydym yn credu bod angen mesur pellach”.

I Mali, sy’n aelod ifanc o’r Blaid Lafur mae gwneud gwneud dysgu am wleidyddiaeth yn orfodol ym mhob ysgol yn hanfodol.

“Ma’ lot o bobl ifanc yn gweld stwff ar wleidyddiaeth ar TikTok a phethe felly, ond dwi’n credu bod hyn ddim y ffordd orau i ddysgu am wleidyddiaeth.

“Dylse ysgolion ga’l eu defnyddio er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn ca’l gwybodaeth ddibynadwy sydd yn gywir, er mwyn ‘neud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael eu hamddiffyn bron.”




Source link

Views: 0

Check Also

E515dc30 37ec 11f0 b03d 23713b9a6cf0.jpg

Seb Davies: Wales lock joins Dragons from Cardiff

Dragons head coach Filo Tiatia said: “We’re really pleased to be able to bring Seb …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
चंदौली के नेगुरा गांव में गाड़ी खड़ी करने के.