‘Diffyg canllawiau’ yn oedi agor nifer o addoldai


addoli wrth y cyfrifiadurImage copyright
stevanovicigor

Mae’n ymddangos mai ychydig iawn o addoldai fydd yn agor eu drysau yng Nghymru ddydd Sul, a hynny’n rhannol am nad yw canllawiau llawn Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd mewn pryd.

Ar ddydd Gwener, 10 Gorffennaf, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, bod addoldai yn gallu agor ar gyfer gwasanaethau o 13 Gorffennaf ymlaen.

Roedd hawl gan addoldai i agor ar gyfer gweddïau preifat, priodasau ac angladdau cyn hynny.

“Does dim modd symud ymlaen heb y canllawiau, ond ‘dyn ni ddim am ruthro pethau’n ormodol gan fod yn rhaid i bawb fod yn ddiogel,” meddai Meirion Morris, ysgrifennydd cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi cyhoeddi “canllawiau i ganiatáu i fannau addoli ailagor yn gynharach fis yma”.

Image copyright
Laura Jones

Image caption

Mae Laura Jones yn edrych ymlaen at fynd yn ôl i’r mosg

Dywedodd Laura Jones o Gyngor Mwslimaidd Cymru nad oedd yr un mosg yng Nghymru wedi cynnal gwasanaeth ddydd Gwener a’u bod nhw hefyd yn disgwyl am gyfarwyddyd pellach gan Lywodraeth Cymru.

“Mae’r mosg ym Mhort Talbot wedi bod yn agor ar gyfer gweddi breifat ond ddim mwy ar hyn o bryd gan ein bod yn disgwyl am fwy o guidance gan y llywodraeth,” meddai.

“Bydd e’n neis mynd yn ôl. Y tebyg yw y bydd y rhai o’r mosgiau yn agor ddydd Gwener nesaf.

“Yn bersonol yn ystod y misoedd diwethaf dwi wedi colli cymuned, gweld pobl eraill a gweddïo yn y mosg. Yn fuan mae’r ail Eid yn digwydd a bydd yn braf agor erbyn hynny.”

Image copyright
Lynwen Hughes

Image caption

“Ry’n fel Undeb yn annog ein heglwysi i beidio rhuthro i ailagor,” meddai Judith Morris

Dywedodd Judith Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol Bedyddwyr Cymru eu bod fel enwad wedi anfon nodyn at bob eglwys sy’n nodi nad yw’r “canllawiau swyddogol y mae’n rhaid i eglwysi eu hystyried wrth ailagor wedi eu cyhoeddi eto gan Lywodraeth Cymru”.

“Ein bwriad fel undeb yw paratoi cyngor i’n heglwysi ar sail y canllawiau yma erbyn diwedd Gorffennaf ac rydym am annog ein heglwysi i beidio â rhuthro i ailagor ond i gymryd amser wrth ystyried y gofynion gan anelu at ailagor ym mis Medi,” meddai.

“Noder, cyfrifoldeb pob eglwys unigol a’r sawl sy’n gyfrifol, sef y diaconiaid a’r ymddiriedolwyr, yw sicrhau bod y gofynion o leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r feirws Corona yn cael eu gweithredu.”

Image copyright
Getty Images

Image caption

Mae rhai eglwysi eisoes wedi agor er mwyn caniatáu i bobl weddïo yn eu hamser eu hunain

Ychwanegodd Mr Morris bod ymddiriedolwyr yr Eglwys Bresbyteraidd yn cyfarfod ddiwedd Gorffennaf ond nad yw’n rhagweld y bydd nifer o gapeli Cymraeg yn agor yn iawn tan fis Medi.

“Bydd rhyw fath o waith paratoi yn digwydd ym mis Awst – agor ambell le efallai i weld sut mae pethau’n gweithio ond paratoi fyddwn ni i agor yn llawn ym mis Medi ond dwi’n gweld capeli Saesneg yn agor ddechrau mis Awst – mae nifer o’r rheiny wedi gwneud asesiad risg yn barod,” ychwanegodd.

‘Agor rhai eglwysi’

Mae’n ymddangos y bydd eglwysi cadeiriol Caerdydd, Aberhonddu, Tyddewi a Chasnewydd yn agor eu drysau ddydd Sul ond bydd cadeirlannau Bangor a Llanelwy ynghau.

Image copyright
Alys Tomlinson

Image caption

Bydd gwasanaethau yng nghadeirlan Llandaf am 09:00 ac 11:00

Dywedodd Andrew Jones, Archddiacon Meirionnydd ei fod yn gobeithio cynnal gwasanaeth yn eglwysi Llanbedrog a Llannor ym Mhen Llŷn.

Dywed Capel Tabernacl yng Nghaerdydd y byddant yn cynnal gwasanaeth am 18:00.

‘Canllawiau wedi’u cyhoeddi’

Er y pryder am ddiffyg canllawiau, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyhoeddi “canllawiau i ganiatáu i fannau addoli ailagor yn gynharach fis yma”.

“Rydym wedi bod yn ymgysylltu’n agos â grwpiau eglwysig a rhanddeiliaid eraill ar y canllawiau,” meddai.

“Bydd y canllawiau, sydd wedi eu diweddaru yn dilyn yr adborth a gawsom wythnos diwethaf, yn cael eu cyhoeddi o fewn y dyddiau nesaf.”

Ffydd a phaned

Yn y cyfamser mae nifer o eglwysi yn parhau i gynnal a rhannu gwasanaethau ar y we.

Dywedodd Beryl Jenkins, sy’n aelod o gapel Seion yn Aberystwyth ei bod wrth ei bodd gyda’r arlwy a’i bod efallai “braidd yn gynnar i fynd yn ôl i’r capel ar hyn o bryd”.

“Dwi wedi cael blas mawr yn mynd ar wefannau pobl – dwi’n cael budd mawr,” meddai.

“Dwi’n gallu eistedd yn gyffyrddus efo paned – gallwch wrando unrhyw adeg o’r dydd, unrhyw adeg o’r wythnos – mae’r cyfan mor gyfleus.”

Mae Beti Griffiths o Ledrod hefyd yn diolch am y gwasanaethau ar y we, ond er hynny yn edrych ymlaen at ddychwelyd i gymdeithas y capel yn fuan.

“Does dim yn rhagori na mynd i oedfa,” meddai.

“Mae rhywbeth yn y paratoi a phan dwi’n cyrraedd yn gynnar ac yn edrych o gwmpas mae’r atgofion yn llifo. Mae mynd i bregethu i gapel arall hefyd yn codi ysbryd rhywun.”

Bydd trafodaeth bellach ar y mater ar Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul.



BBC News