Cynnig hyfforddiant iechyd meddwl i glybiau pêl-droed llawr gwlad

6c4af180 3262 11f0 9e9c 1f20d8897a3d.jpg

Ychwanegodd fod gwrywdod (masculinity), yn hanesyddol, wedi bod yn ffactor wrth wneud chwaraewyr yn gyndyn i rannu profiadau a theimladau.

“Mae’r naratif yma fod dynion ddim yn dangos teimladau yn treiddio drwy lot o swyddi a lleoliadau ble mae dynion efo’i gilydd – ffermio, y fyddin, meddygon ac ati – llefydd lle’r oedd mwy o bwysau a chystadleuaeth.

“Yn draddodiadol roedd hyn yn cael ei weld fel rhywbeth oedd yn gwneud pobl yn llai tebygol o edrych am help, ond dwi ddim yn siŵr os ydi hynny’n wir bellach, a bod hynny’n amrywio o dîm i dîm ac o berson i berson.

“Ar y lefel uchaf mae nifer o swyddi yn gysylltiedig â chefnogi chwaraewyr – lifestyle coaches, resilience coaches ac yn y blaen – sydd yno i helpu chwaraewyr ddygymod â phethau amrywiol yn eu bywydau.”

Er yn croesawu’r gefnogaeth gynyddol i chwaraewyr, awgrymodd nad yw labelu trafferthion personol fel problemau iechyd meddwl bob tro yn helpu a bod angen osgoi trin pethau fel galar a theimlo’n drist fel pethau annaturiol.


BBC News

Views: 0

Check Also

Dadorchuddio cadair a choron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

Glo, pêl-droed, traphont ddŵr a bragdai sy’n cyfleu hanes a dyfodol Wrecsam yw’r ysbrydoliaeth ar …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Around the world, the tournament is available to live stream and stream on demand on the iihf’s own .