Cymuned Cymru’n rhy ‘amddiffynnol o’i hunaniaeth’


, Cymuned Cymru’n rhy ‘amddiffynnol o’i hunaniaeth’Image copyright
Seren Jones

Image caption

Gweithio yn Uned Podlediadau Newyddion y BBC yn Llundain mae Seren Jones

Mae angen i’r Cymry beidio bod mor “amddiffynnol” am eu hunaniaeth ac yn fwy agored i groesawu pobl o bob lliw a llun, medd Llywydd Dydd Sadwrn yng Ngŵyl AmGen.

Yn ôl Seren Jones, sy’n ohebydd a chynhyrchydd gyda’r BBC yn Llundain, er bod mwy o amrywiaeth o siaradwyr Cymraeg erbyn hyn, “i rai mae yna natur ddethol yn dal i berthyn i’r gymuned Gymreig”.

“Cymuned sydd wedi brwydro i gadw ei hiaith a’i diwylliant yn fyw, ac o ganlyniad yn amddiffynnol am ei hunaniaeth.”

Dyw Seren, sydd o Gaerdydd, ddim yn ffitio categori cymdeithas o berson “Cymreig”, meddai.

“…Dwi ‘di sylwi, does dim ots pa mor Gymraeg yw dy enw di, os dwyt ti ddim yn edrych fel mae dy enw’n ‘awgrymu’, mae dy Gymreictod yn cael ei gwestiynu.”

Yn ystod ei haraith soniodd am ei diwrnod cyntaf o hyfforddiant gyda’r BBC yn Birmingham, a’r dyn gyda’r gofrestr yn synnu mai Seren oedd ei henw a’i bod yn gallu siarad Cymraeg.

“Er roedd ymateb y dyn yn ddiniwed ac yn anffodus yn gyffredin, doedd e ddim yn gwybod neu’n credu fod pobl fel fi – nad sy’n wyn – hefyd yn gallu siarad Cymraeg.

“Felly mewn ffordd, gyda llawer iawn o bobl eraill, doedd e ddim yn gwybod ein bod ni’n bodoli.

“Dyma ganran o boblogaeth y wlad nad sy’n cael eu hystyried yn Gymry oherwydd lliw eu croen.”

  • Araith Llywydd y Dydd: Seren Jones

Marwolaeth George Floyd

Dyw’r cyfrifiad ddim wedi bod yn cyfrif lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru fel Cymro neu Gymraes yn y gorffennol.

“Ac mae hynny’n d’eud digon,” meddai.

Bydd y termau “Asiaidd Cymreig” a “Du Cymreig” wedi’u cynnwys ar y ffurflen flwyddyn nesaf meddai Llywodraeth Cymru.

Yn ddiweddar mae protestiadau wedi eu cynnal ar draws y byd yn dilyn marwolaeth George Floyd yn America.

Mae Seren yn dweud ei bod wedi cael “gormod” o sgyrsiau gyda phobl am hiliaeth a hunaniaeth yn sgil ei farwolaeth.

Image copyright
Getty Images

Image caption

Ers marwolaeth George Floyd mae protestwyr wedi bod yn galw am gydraddoldeb i bobl ddu ac am gael gwared ag hiliaeth

“Mae ‘na gred bod dyletswydd ar bobl ddu i egluro pam oedd beth ddigwyddodd i George Floyd mor erchyll – er nad yw’n ddyletswydd arnyn nhw o gwbl.

“Felly fel llawer o bobl yn y gymuned, dwi wedi ffeindio’r cyfnod yn flinedig ac yn andros o emosiynol.”

Ond mae hefyd yn dweud nad oes yna drafodaethau yn digwydd am y pwnc a bod angen siarad.

“Dydyn ni ddim yn siarad am anghydraddoldeb, am hiliaeth yn y gymuned Gymreig er bod y ddau beth hyn yn bodoli yma yng Nghymru hefyd.”

Newid agwedd

“Doedd llofruddiaeth George Floyd ddim jyst yn ddyn yn cael ei ladd oherwydd lliw ei groen, roedd e’n symboleiddio llais sy’n cael ei anwybyddu, a bywyd sy’n llai pwysig – rhywbeth mae gormod ohonom ni yn gallu deall.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ond er bod yr iaith yn esblygu a mwy o amrywiaeth o bobl yn ei siarad, mae Seren yn cwestiynu os yw ein hagweddau ni yn gwneud yr un peth.

“Oes angen cwestiynu Cymreictod pobl sydd gydag acenion gwahanol, cefndiroedd gwahanol a phrofiadau gwahanol?

“Oes angen cymharu Cymreictod rhywun nad sy’n wyn ond sy’n siarad Cymraeg, gyda rhywun gwyn sydd ddim yn siarad yr iaith? Oes angen aros yn y gorffennol pan all y dyfodol edrych mor obeithiol?

“Unwaith y byddwn ni’n datgymalu’r hierarchaeth yma o Gymreictod, fe fydd y newid yn dechrau.”



BBC News