
Yn hanu o Laneilian ar Ynys Môn, fe dderbyniodd Bleddyn ei addysg yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.
Wrth ysgrifennu ym mhapur bro Yr Arwydd, dywedodd Dafydd Griffiths i Bleddyn “ddechrau hwylio yn ifanc iawn efo’i frodyr yn y Clwb Hwylio sydd yn Traeth Bychan ger Moelfre”.
“I ddechrau roedd yn criwio gyda’i rieni neu ei frodyr mewn cwch ‘Mirror’. O tua naw oed dechreuodd hwylio Topper, sef cwch i un person,” meddai.
Wrth siarad â BBC Cymru Fyw, dywedodd ei dad fod Bleddyn yn aelod o garfan hwylio Prydain pan oedd ond yn 13 oed “ac fe enillodd ddwy bencampwriaeth Toppers Brydeinig”.
“Ar ôl trosglwyddo i gwch cyflymach – y 29er – fe enillodd bencampwriaeth Brydeinig arall. Mae hefyd wedi trafeilio dramor i gystadlu yn Ewrop ac yn Awstralia.
“Tra yn y brifysgol yn astudio am radd meistr mewn Peirianneg Mecanyddol fe hwyliodd nifer o gychod bach a mawr.”
Ychwanegodd ei fod yn “falch iawn o’i lwyddiant fel rhan o dîm hwylio INEOS Britannia”.
Source link
Best Electronic Deals.
Discover the Best Electronic Deals on Amazon Today. Grab Hot Discounts on Top Tech! Don't Miss Out! 🔥 Save Big Now!