google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 10 2026

Cyhuddo dau arall o lofruddio dyn, 18, yn ‘ddatblygiad sylweddol’

Advertisements

Mae dau ddyn arall o ardal Abertawe wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad gyda marwolaeth dyn 18 oed ar 9 Gorffennaf.

Bu farw Ceiran Evans, 18, wedi gwrthdrawiad rhwng car a beic ar Ffordd Pen Cae Crwn yng Ngorseinon.

Roedd Tyler Ford, 18 oed o Dreforys, Abertawe, eisoes wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth ers mis Gorffennaf a hefyd wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio ail berson yn yr un digwyddiad.

Mae Heddlu’r De bellach wedi cadarnhau bod Elliot Truelove, 33 oed o West Cross, a Liam Thomas, 18 oed o Dreforys wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad gyda’r farwolaeth hefyd.

Mae’r ddau wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth a cheisio llofruddio.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Danielle Thorne fod yr ymchwiliad yn un “cymhleth i ddigwyddiad sydd wedi bod yn hynod drawmatig i deulu Ceiran Evans ac i gymuned ehangach Gorseinon”.

“Mae’r cyhuddiadau ychwanegol yma yn ddatblygiad sylweddol arall wrth i ni geisio deall yr amgylchiadau a wnaeth arwain at farwolaeth Ceiran.

“Diolchwn unwaith eto i’r gymuned leol am eu cymorth gyda’r ymchwiliad.”


BBC News

See also  Nodi 10 mlynedd ers i gynhyrchu trydan yn safle Wylfa ddod i ben

Check Also

Dyfodol darlledu Cymraeg ‘mewn perygl’ ac ‘mae’n rhaid newid ffi’r drwydded’

Dywedodd Pennaeth Materion Corfforaethol BBC Cymru Wales, Rhys Evans fod “BBC Cymru Wales yma i …

BBC Cymru Wales faces managed decline without more cash, MPs told

A senior BBC Cymru Wales executive has warned MPs the broadcaster does not have the …

Pontypridd home infested with thousands of cockroaches

Davies said the number of cockroach infestations he was dealing with had increased dramatically. “Five …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime