Cyflwyno cyfyngiadau llym am amser byr yn ‘sicr o fethu’


Owain Clarke
Gohebydd Iechyd BBC Cymru

Pynciau Cysylltiedig

  • Haint coronafeirws

Cymru

image copyrightGetty Images

image captionY syniad gyda circuit-breaker ydy cyflwyno cyfyngiadau llym iawn am amser byr

Mae mesurau cloi llym iawn am gyfnod byr sy’n cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru yn “sicr o fethu” a byddan nhw’n dod â chost heb unrhyw fuddiannau, yn ôl cyn-Gyfarwyddwr Clefydau Trosglwyddadwy gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod “consensws cynyddol” ynghylch yr angen i gyflwyno mesurau cloi dyfnach dros gyfnod byr o amser – yr hyn sy’n cael ei alw’n

circuit-breaker – i arafu lledaeniad Covid-19 drwy’r hydref a’r gaeaf.

Gallai’r rhain gynnwys cau tafarndai a bwytai am gyfnod o amgylch y gwyliau hanner tymor i ysgolion.

Ond yn ôl Dr Roland Salmon bydd y mesurau ond yn oedi’r feirws yn hytrach na’i atal, tra’n achosi costau ychwanegol sylweddol a difrod i’r economi a chymdeithas.

Mae hefyd yn dadlau na fyddai unrhyw fesurau tymor byr sy’n para dwy neu dair wythnos yn ddigon hir i atal Covid-19 rhag lledaenu o aelwydydd lle mae pobl yn heintus ond nad ydynt yn dangos symptomau.

‘Oedi’r feirws yn hytrach na’i atal’

“Dydw i ddim yn meddwl y bydd circuit-breaker yn gweithio,” meddai wrth BBC Cymru.

“Fydd o ddim yn gweithio oherwydd bod hyd yn oed SAGE (Pwyllgor Ymgynghorol Gwyddonol Llywodraeth y DU ar gyfer Argyfyngau) yn credu y byddai ond yn oedi’r feirws yn hytrach na’i atal yn gyfan gwbl.

“Ond yn ail mae’n rhaid i chi feddwl am aelwyd o oedolion ifanc, gadewch i ni ddweud dau i bedwar o bobl yn trosglwyddo’r feirws i’w gilydd – pa bynnag gyfnod a ddewiswch ar gyfer y circuitbreaker, rydych chi’n dal i ryddhau pobl heintus i’r gymuned.

“Mae’n sicr o fethu ac mae ganddo gost heb unrhyw fuddiannau.”

image captionMae Dr Roland Salmon yn credu y bydd yr ail don yn para am “rhwng chwech a 12 wythnos”

Pan fydd person mewn aelwyd yn datblygu symptomau neu’n profi’n bositif, mae aelodau eraill o’r aelwyd yn cael eu cynghori i hunan-ynysu am bythefnos.

Ond dyw Dr Salmon, sy’n gyn-epidemiolegydd a arweiniodd yr ymateb i’r achosion E.coli yn ne Cymru yn 2005, ddim yn cefnogi cyfyngiadau cloi hirach.

Yn hytrach, mae’n credu y dylai llywodraethau “ailystyried y model cyfan” a chanolbwyntio mwy ar amddiffyn rhannau mwyaf bregus cymdeithas yn hytrach na gosod cyfyngiadau ar y rhai sy’n cael eu hystyried mewn llai o berygl.

‘Angen dull rhesymegol’

“Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw fersiwn o’r cyfnod clo sy’n wir yn ymarferol mewn ffordd sy’n atal y feirws,” meddai.

“Mae hyd yn oed lefelau eithaf bach o ganiatáu i bobl wneud y pethau sydd eu hangen arnoch i gymdeithas weithredu yn caniatáu i’r feirws barhau i ledaenu.

“Felly yn hytrach na chyflwyno cyfnodau clo fesul ardal, byddwn i’n hoffi gweld system sy’n dechrau edrych ar y risg i wahanol bobl, gweithleoedd, galwedigaeth ac amddiffyn pobl ar y llwybr hwnnw.

“Does neb am adael iddo [Covid-19] ledaenu’n rhydd – fel yr hoffai beirniaid y polisi hwn ei ddweud  – ond yr hyn rwy’n ei ddweud yw bod angen dull rhesymegol arnom, mae hynny wedi bod ar goll hyd yma.”

image copyrightGetty Images
image captionDywedodd Dr Salmon y dylid canolbwyntio ar amddiffyn aelodau mwyaf bregus cymdeithas

Fodd bynnag, mae llawer o arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn parhau i gefnogi cyfnodau clo lleol.

Maen nhw’n ofni os yw’r feirws yn lledaenu’n eang, bydd yn diferu i boblogaethau mwy bregus er gwaethaf mesurau amddiffyn.

Mae pryder hefyd y gallai capasiti’r GIG gael ei llethu os bydd y feirws yn lledaenu’n rhy gyflym.

Pwy sy’n cefnogi clo llym?

Fe wnaeth Pwyllgor Cynghori Gwyddonol Llywodraeth y DU (SAGE) annog cyflwyno mesurau llym am gyfnodau byr dair wythnos yn ôl.

Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd Llywodraeth Yr Alban y byddai tafarndai a bwytai’n cau ar draws llain ganol y wlad am bythefnos.

Mae’r arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer hefyd wedi galw am gyflwyno cyfnod clo byr yn Lloegr i reoli cyfraddau cynyddol coronafeirws.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r mesurau hynny’n cael eu hystyried yng Nghymru, ac yn gynharach yr wythnos hon galwodd Prif Weinidog Cymru ar Boris Johnson i gynnal cyfarfod COBR(a) fel y gallai pob un o wledydd y DU eu trafod.

image copyrightPA Media
image captionFe allai’r cyfyngiadau llym gynnwys cau tafarndai a bwytai dros wyliau hanner tymor

Trwy gydol pandemig Covid-19 mae Dr Salmon wedi bod yn feirniadol o’r ffordd y mae llywodraethau ledled y DU wedi defnyddio cyngor gwyddonol.

“Mae’n ymddangos i mi fod y penderfyniadau gwyddonol yn cael eu gwneud gan bobl sydd ag ychydig o brofiad uniongyrchol – yn sicr o’r ffliw – ac mae llawer o gymysgu â rhannau gwleidyddol y broses o wneud penderfyniadau,” meddai.

“Yng Nghymru mae llawer o bobl roeddwn i’n disgwyl fyddai’n cymryd rhan, ddim yn cymryd rhan.”

‘Ton 6 i 12 wythnos’

Ond mae Dr Salmon yn dweud ei fod yn obeithiol na fydd y don hon o Covid-19 yn para mor hir ag y mae ambell un yn poeni.

“Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw reswm bod y feirws hwn yn mynd i ymddwyn yn wahanol i afiechydon anadlol eraill rydym yn gwybod cryn dipyn amdanynt,” meddai.

“Rwy’n credu y dylem gael epidemig y tro hwn o rhwng chwech a 12 wythnos ac felly dylai fod yn glir erbyn dechrau mis Rhagfyr.

“Gallwn fod yn anghywir ond dyna fy marn yn seiliedig ar brofiad.”

Pynciau Cysylltiedig



BBC News